Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

18 Hydref 2017: LANSIAD CYFROL PLACE-NAMES OF FLINTSHIRE

Fel rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Daniel Owen eleni neilltuwyd 18 Hydref 2017 i lansio llyfr pwysig ar enwau lleoedd sir y Fflint sef Place-Names of Flintshire (Gwasg Prifysgol Cymru) gan Hywel Wyn Owen a’r diweddar Ken Lloyd Gruffydd. Roedd nifer helaeth yn y cyfarfod yn Llyfrgell y Dref, yr Wyddgrug. Llywydd y cyfarfod oedd Kevin Matthias, cyn-archifydd sir Ddinbych, ac fe siaradodd Claire Harrington, archifydd sir y Fflint, Eirlys Gruffydd-Evans, gweddw Ken Lloyd Gruffydd a Hywel Wyn Owen, a roddodd amlinelliad o arwyddocâd y llyfr i astudiaethau enwau lleoedd yng Nghymru a Lloegr a phwysigrwydd enwau lleoedd i ddehongli hanes, tirwedd ac iaith y sir. Cyfeiriwyd at y ffaith bod cronfa ddata enwau lleoedd Ken ar gael ar wefan CELlC. Nodwyd y cyfraniad ariannol hael a dderbyniwyd oddi wrth CELlC ar gyfer cyhoeddi’r llyfr. Cafwyd eitemau ar y delyn gan Caitlin Lovett.

Hywel Wyn Owen ac Eirlys Gruffydd-Evans, gweddw Ken Lloyd Gruffydd, cydawdur y gyfrol

Hywel Wyn Owen ac Eirlys Gruffydd-Evans, gweddw Ken Lloyd Gruffydd, cydawdur y gyfrol