Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

Am Ein Mapiau Digidol

O’r cychwyn, bwriad y Gymdeithas a’i phrosiect Gwarchod oedd gweithio o fewn cymdeithasau a sefydliadau cyhoeddus. Gofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) inni ychwanegu at eu cronfa ddata o enwau tirweddol y mân enwau lleol y dymunent eu gweld yn cael eu cynnwys yn y mapiau a ddefnyddir gan eu gweithwyr o ddydd i ddydd. Mae enwau pyllau afonydd yn un enghraifft.

Mae ein cysylltiadau agos â ChNC wedi arwain at gynllun peilot gyda hwy a chwmni Esri.  Erbyn 2022 mae’r gofal am ein map yn nwylo Gwe Cambrian ac Esri.

Mae’r mapiau hanesyddol gennym drwy gytundeb â Llyfrgell Genedlaethol yr Alban a hwyluswyd hyn gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd dau fap i’w gweld gan y cyhoedd, sef

  1. Map Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru gydag enwau sydd wedi eu gwirio gennym, a
  2. Map ar ffurf Ap Cofnodi, sydd yn galluogi i’r cyhoedd gyfrannu mân enwau arno.  Bydd y Gymdeithas yn gwirio’r rhain, gan dderbyn y rhai sydd hefyd yn cynnwys y manylion angenrheidiol yn y blwch data perthnasol. Mae hwn i ddilyn.

1 Map Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Casglwyd a chofnodwyd rhai miloedd o fân enwau lleol mewn gweithdai cyhoeddus a chawsom fapiau papur a thystiolaeth lafar werthfawr.  Cawsom hefyd ganiatâd nifer o awduron ac ymchwilwyr i gynnwys eu data a’u henghreifftiau. Mae pob enw yn ymddangos fel cylch ar y map.

Wrth glicio ar y cylch, mae manylion ychwanegol yn ymddangos mewn blwch a’r cyfan yn mynd yn syth i’n cronfa ddata.

Mae llawer o’r enwau hyn heb eu cofnodi o’r blaen.  Pan fo’n bosibl, cofnodwn hefyd, rai o enghreifftiau cynnar o’r enwau sydd yn ymddangos mewn dogfennau ystad a llawysgrifau. Rydym yn cynnwys hefyd gyfeiriadau at y ffynonellau hyn.  Bydd hwn yn adnodd gwerthfawr i ymchwilwyr a haneswyr fel ei gilydd. Cofnodwn enw’r plwyf fel yr oedd yn Arolwg Degwm yn 1840 gan y bydd hynny o gymorth i’r rhai sy’n dymuno olrhain enwau. Am yr un rheswm, defnyddiwn enwau’r hen siroedd cyn 1974.

Rydym yn gobeithio y bydd y map yn ysbrydoli pobl i gynnig mwy o enwau lleol inni. 

2 Map Cofnodi

Mae hwn i ddilyn.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gofnodi gartref, a sut i yrru’r wybodeth atom i’w throsglwyddo i’r map.