Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

7 Hydref 2017: Y GYNHADLEDD FLYNYDDOL YN ABERYSTWYTH

Ar ôl pum mlynedd o deithio i amryw rannau o Gymru, dychwelwyd i Aberystwyth ar gyfer seithfed Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Fe’i cynhaliwyd yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.

Croesawyd tua saith deg o gynadleddwyr i Aberystwyth gan yr Athro Dafydd Johnston, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau, ac agorwyd y gynhadledd yn ffurfiol gan Rhodri Glyn Thomas, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol.

Cyflwynwyd pum papur diddorol ac amrywiol yn ystod y dydd. Agorwyd sesiwn y bore gyda thrafodaeth gan yr Athro Gruffydd Aled Williams ar enwau lleoedd cysylltiedig ag Owain Glyndŵr. Yn yr ail bapur, cafwyd golwg ar enwau lleoedd Arthuraidd Cymru yng nghwmni Scott Lloyd. Aeth Angharad Fychan â ni ar daith i archwilio enwau lleoedd diafolaidd.

Dechreuodd sesiwn y prynhawn gyda chyflwyniad gan Glenda Carr yn trafod crefft a gwaith yn enwau lleoedd y Gogledd-Orllewin, cyn i Mike Headon draddodi ar hanes enw Colwyn Bay. Daeth i gynhadledd i ben, yn ôl yr arfer, gyda’r Cyfarfod Blynyddol.