Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

Gwarchod

Cynllun yng ngofal Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru (CELlC) yw Gwarchod. Noddwyd y cynllun gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn 2013. Yn ogystal â hybu CELlC fel cymdeithas mae ein cynllun o weithgareddau amrywiol wedi sicrhau llwyfan inni ym mhob rhan o Gymru.

Yr un yw prif amcanion CELlC a Gwarchod, sef codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd enwau lleoedd a gwarchod enwau lleoedd. Pwyllgor CELlC sy’n rheoli, llywio ac yn gwirio’r gyllideb. Daeth y cynllun i ben yn 2018.

Mae Gwarchod wedi ymrwymo i gynnal nifer penodol o weithdai, ysgolion undydd a chynadleddau rhanbarthol, darlithoedd a theithiau tywys ac i drafod wyneb yn wyneb ag wyth mil o aelodau’r cyhoedd.

Mae’r wefan hon yn rhan o’r cynllun hwnnw ac yn disodli’r wefan a grëwyd gan Gruffudd Prys, fel tamaid i aros pryd. Yn fuan ar ôl cychwyn ar y prosiect, sylweddolwyd bod technoleg yn brasgamu yn ei blaen a rhaid fyddai i CELlC a Gwarchod addasu er mwyn gallu manteisio’n llawn ar hynny.

Logo_Cymdeithas_Enway_Lleoedd

Bu cefnogaeth a chyngor swyddfa’r loteri yng Nghaerdydd yn allweddol i hyn i gyd. Gweithredwn ni drwy’r Gymraeg ac mae medru trafod ein cynllun ym mhrif iaith ein gweithredu yn fantais amlwg. Yn ogystal â siarad yr un iaith, rydym yn rhannu dealltwriaeth o holl ddiwylliant a chefndir enwau lleoedd.

Un o amcanion y cynllun yw cadarnhau trefniadaeth CELlC a’i sefydlu’n gorff dylanwadol yng Nghymru. Nid darparu adloniant yw amcan ein gweithgareddau, er y bydd pleser a mwynhad i’w gael ar bob taith ac ym mhob cynhadledd. Mae sawl diwrnod da o waith yn aros i’w cwblhau. Gwyddom i sicrwydd, bellach, fod aelodau wedi ymuno â’r Gymdeithas er mwyn creu llwyfan i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd enwau, eu cofnodi a’u gwarchod. Mae llawer, yn ogystal, yn gwerthfawrogi’r cyfle i weithredu’n ymarferol yn eu cymdogaeth nhw eu hunain.

Ein dewis ni, o’r cychwyn cyntaf, oedd gweithio law yn llaw â chymdeithasau, sefydliadau cyhoeddus a’r cyfryngau. Mae ein perthynas agos â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyfoethogi’n rhaglen waith a’n galluogi i estyn at y cyhoedd. Mae gweithio oddi mewn i sefydliad yn wahanol iawn i gydweithio’n gyffredinol. Er enghraifft, fe’n gwahoddwyd ni i ychwanegu at gronfa ddata enwau CNC; dyma’r mân enwau lleol roedden nhw am i ni eu hychwanegu at fapiau’r corff. Mae enwau pyllau afonydd, yn un enghraifft. Er mwyn hwyluso hyn, cawsom fynediad at fapiau digidol sy’n ein galluogi ni i gofnodi enwau tiriogaethol, neu doponymau, ym maes enwau lleoedd. Mae gweithio’n glòs gyda’r sefydliad o fudd i’r naill ochr a’r llall. A thrwy’r gwaith yma, crëwyd cysylltiad ymarferol â’r Arolwg Ordnans, corff sy’n hollol allweddol ym maes mapio ac enwau lleoedd ac yn allweddol o ran gwireddu amcanion CELlC. Gobeithiwn gryfhau’r berthynas tua’r dyfodol.

SN5938781620 from SN5933881646

Mae ein cysylltiadau â’r Llyfrgell Genedlaethol (LlGC) lawn mor glòs a buddiol. Mae’r wefan hon yn un enghraifft o’r cydweithio hwn. Rhannwn ddiddordeb, yn ogystal, mewn enwau caeau a ffermydd gyda phrosiect Cynefin; ac rydym wedi rhannu ambell lwyfan a chynhadledd yn hollol gysurus. Edrychwn ymlaen i gydweithredu ymhellach wrth adeiladu cynllun newydd a fydd yn canolbwyntio ar fapiau ystadau Cymru.

Bu cyfle yn ddiweddar i gydweithio gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd gan gofnodi nifer helaeth o enwau lleoedd ar Ynys Enlli. Sylwodd un o’n haelodau craff nad oedd sôn am enwau lleoedd yn yr adroddiad drafft o reolaeth amgylcheddol a baratowyd ar gyfer ymddiriedolwyr yr ynys. Dyma gyfle i ni gynnig cymorth. Gwnaed y gwaith mewn cwta benwythnos gan drosglwyddo enwau o’r map digidol i’w map hwythau. Yn ffodus i ni, roedd ein haelod gweithgar, Elfed Gruffydd, eisoes wedi cyfrannu enwau arfordirol yr ynys i’n map ni o’i lyfr Ar Hyd Ben ’Rallt. Roedd Christine Evans a’r teulu o Uwchmynydd ac Enlli, wedi cofnodi enwau caeau’r ynys ar fap teuluol a chawsom y rhain i chwyddo’r casgliad. Bellach mae’r ddau fap yn rhan o’r adroddiad. Cawsom, yn sgil hynny, drwydded gan yr Arolwg Ordnans a chaniatâd gan y llywodraeth i ddangos y map ar y wefan hon, ar bosteri ac mewn cylchgronau. Dyma enghraifft fechan ond enghraifft bwysig o warchod enwau ac ar yr un pryd godi ymwybyddiaeth o’u pwysigrwydd wrth ddehongli hanes. Ac mae pawb wedi elwa. Gobeithiwn y bydd rhagor o sefydliadau yn troi atom am waith fel hyn.

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda’r sefydliadau sy’n rhannu tir cyffredin â ni er mwyn gosod ein cronfa ddata o enwau ar fap ar y wefan. Dyw hyn ddim yn fater hawdd. Rhaid cael trwyddedau a chaniatâd i osod mapiau ar wefan ac mae’n gost aruthrol i storio data (enwau) ar fapiau o’r fath. Wrth i ni ychwanegu at ein casgliad, mae’r gost yn cynyddu’n sylweddol bob cynnig.

Bu Angharad Fychan, ein hysgrifennydd diwyd, yn sgwrsio gyda Catrin Beard am waith y Gymdeithas a phwysigrwydd diogelu enwau yn Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau. Daeth criw da i’r Babell Lên a bu ymateb da i sgwrs ddifyr.

Rydym wrthi’n ddygn, yn ogystal, yn rhoi sgyrsiau i gymdeithasau ar draws Cymru a thu hwnt. Does dim byd gwell na gwaith wyneb yn wyneb i godi ymwybyddiaeth ac i annog pobl i ymddiddori. Mae’r croeso cyson a gawn yn ein calonogi a dysgwn lawer gan unigolion am yr enwau hynafol sydd yn dal ar gof gwlad.

Gwerthfawr iawn o ran estyn at galon y gymuned fu’r gweithdai casglu a chofnodi enwau gwlad Llŷn. Cawsom drysorau lawer yn Llanbedrog eleni, yn enwau ar greigiau, ogofau a hen fythynnod, ac enwau caeau plwyf Aberdaron. O ystyried methiant rhestrau’r degwm i gofnodi enwau caeau mewn amryw blwyfi, anelwn at lenwi’r bylchau drwy gofnodi tystiolaeth sydd ar gof gwlad ac yn wybodaeth deuluol. Cafwyd cyfle i wneud hyn ym Methesda Fis Bach 2018 pan drefnwyd gweithdy undydd i gasglu a chofnodi enwau creigiau, caeau, ponciau chwarel a phyllau afon Ogwen. Mae grŵp Age Well yn Amlwch a chriw bach yn Llaneilian, Môn, yn ddiwyd yn casglu ar hyd y flwyddyn.

Yn achlysurol, daw ceisiadau gan gwmnïau masnachol am gymorth i ddehongli enwau a gallwn bwyso ar ewyllys da ein harbenigwyr am gyngor safonol.

Ers rhai blynyddoedd, rydym wedi cydweithio â History Points i ddarparu disgrifiadau o enwau hanesyddol. Gallwch ddilyn taith yn nhref Porthaethwy a baratowyd gan yr Athro Hywel Wyn Owen a Rhodri Clark drwy chwilio am yr arwyddion isod a throsglwyddo’r wybodaeth i’ch ffôn clyfar.

HistoryPoints

Rydym yn dal ati i gofnodi enwau mewn gweithdai lleol a chroesawu ceisiadau gan aelodau ac eraill i ymweld â phentref neu dref. Byddwn ni yn talu am neuadd neu ystafell hwylus ag ynddi fynediad i’r we. At hyn byddwn ni’n gofalu am hysbysebu’r digwyddiad yn lleol. Felly, cysylltwch â ni, da chi, os gwyddoch am gymdeithas a fyddai’n gefnogol neu am unigolion sydd â chyfoeth o wybodaeth am enwau lleol.

Ebrill 2018