Enw
- Enw’r Gymdeithas yn Gymraeg yw ‘Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru’, ac yn Saesneg ‘Welsh Place-Name Society’.
Nod ac Amcanion
- Nod y Gymdeithas yw hybu ymwybyddiaeth, astudiaeth a dealltwriaeth o enwau lleoedd a’u perthynas ag ieithoedd, amgylchedd, hanes a diwylliant Cymru, gan gyflawni hynny drwy’r amcanion hyn:
- Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd enwau lleoedd trwy ledaenu gwybodaeth mewn gwahanol ddulliau.
- Hyrwyddo a chefnogi unigolion a grwpiau i gofnodi, dadansoddi a dehongli enwau lleoedd o dystiolaeth lafar a dogfennol.
- Gweithredu fel cyfrwng i warchod enwau lleoedd Cymru.
- Ffurfio perthynas ag unigolion, sefydliadau a chymdeithasau cyffelyb yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill.
- Cyhoeddi Cylchlythyr i aelodau’r Gymdeithas o leiaf unwaith y flwyddyn.
- Cynnal Gwefan y Gymdeithas.
- Cynnal Cynhadledd Flynyddol.
- Ymgymryd ag unrhyw weithgaredd arall a fyddai’n cyflawni’r nod hwn.
Aelodaeth
- Bydd aelodaeth yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn nod ac amcanion y Gymdeithas.
- Bydd tâl aelodaeth blynyddol yn daladwy ym mis Medi; oni cheir y tâl o fewn chwe mis bydd yr aelodaeth yn ddi-rym.
- Gall y Pwyllgor enwebu Llywyddion er Anrhydedd i’r Gymdeithas, a’r enwebiad i’w gymeradwyo yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas.
Pwyllgor a Swyddogion
- Gweinyddir gweithgareddau’r Gymdeithas gan Bwyllgor a fydd yn cynnwys pum swyddog, pum aelod cyffredin, a dau olygydd (y Cylchlythyr a’r Wefan). Bydd gan y swyddogion hawl i gyfethol dau aelod arall am gyfnod o flwyddyn ac un neu ragor o aelodau ychwanegol dros dro i ddiben penodol.
- Cworwm y Pwyllgor fydd pum aelod, gan gynnwys un aelod cyffredin.
- Swyddogion y Gymdeithas fydd Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd ac Ysgrifennydd Aelodaeth.
- Cyfnod swyddogion ac aelodau’r Pwyllgor fydd tair blynedd ond bydd yr Ysgrifennydd, y Trysorydd a’r Ysgrifennydd Aelodaeth ar dir i’w hailethol.
- Enwebir swyddogion ac aelodau ar gyfer y Pwyllgor drwy anfon llofnod cynigydd, eilydd ac enwebai at yr Ysgrifennydd ddau fis cyn y Cyfarfod Cyffredinol.
- Os bydd swyddog yn analluog i weithredu, bydd gan y Pwyllgor yr awdurdod i benodi swyddog dros dro hyd at y Cyfarfod Cyffredinol nesaf.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
- Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas yn y gynhadledd flynyddol yn ystod yr hydref er mwyn ethol swyddogion ac aelodau o’r Pwyllgor, derbyn cyfrifon y Gymdeithas a fydd wedi’u harchwilio hyd at 31 Mawrth y flwyddyn honno, penodi archwilydd annibynnol i’r Gymdeithas ar gyfer y flwyddyn ganlynol, a thrin unrhyw fater cymwys arall. Rhoddir rhybudd o 21 diwrnod o ddyddiad y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
- Cworwm y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fydd 12 aelod.
- Dim ond y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu Gyfarfod Cyffredinol Arbennig sydd ag awdurdod i newid cyfansoddiad y Gymdeithas ar ôl anfon rhybudd o’r newid i holl aelodau’r Gymdeithas 21 diwrnod o flaen llaw.
Cyfarfod Cyffredinol Arbennig
- Gellir galw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ar gais ysgrifenedig 12 aelod o’r Gymdeithas ar ôl rhoi rhybudd o 21 diwrnod i holl aelodau’r Gymdeithas.
- Cworwm y Cyfarfod Cyffredinol Arbennig fydd 12 aelod.
Cyllid
- Pennir y tâl aelodaeth blynyddol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar argymhelliad y Pwyllgor.
- Rhaid i ddau o’r canlynol lofnodi sieciau: y Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd, y Trysorydd, yr Ysgrifennydd neu aelod penodedig o’r Pwyllgor.
- Gellir defnyddio cyllid, incwm ac asedau’r Gymdeithas yn unig i gyflawni dibenion y Gymdeithas.
- Ni chaiff unrhyw swyddog nac aelod o’r Pwyllgor gydnabyddiaeth ariannol ac eithrio costau dilys sy‘n codi o weithredu ar ran y Gymdeithas.
Cyfarfodydd Cyhoeddus
- Bydd pob cyfarfod o’r Gymdeithas, gan gynnwys y Gynhadledd Flynyddol, yn agored i’r cyhoedd, ond gan yr aelodau yn unig y bydd hawl i bleidleisio.
Cyfrwng
- Prif iaith y Gymdeithas yw’r Gymraeg. Darperir fersiynau dwyieithog o’r Cyfansoddiad a chofnodion y Pwyllgor a’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Bydd tudalennau perthnasol y Cylchlythyr a Gwefan y Gymdeithas yn ddwyieithog, a chyhoeddir cyfraniadau yn yr iaith y cyflwynir hwy ynddi, ynghyd â chrynodeb neu gyfieithiad Saesneg o’r cyfraniadau Cymraeg. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael mewn cynadleddau a chyfarfodydd o’r Gymdeithas.
Dirwyn y Gymdeithas i ben
- Gellir diddymu’r Gymdeithas ar argymhelliad y Pwyllgor ar ôl i’r argymhelliad gael ei gadarnhau naill ai yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig drwy bleidlais o leiaf ddwy ran o dair o’r aelodau a fydd yn bresennol.
- Rhoddir unrhyw gyllid neu asedau i gymdeithas sy’n arddel amcanion cyffelyb ar ôl dirwyn y Gymdeithas i ben.
07.09.2012