Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

Llwybrau

Dyfarnodd y Loteri Genedlaethol grant o £38,000 i’r Gymdeithas ar gyfer datblygu prosiect treftadaeth o’r enw LLWYBRAU. Prif amcanion y prosiect fydd codi ymwybyddiaeth o werth enwau lleoedd fel rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol ac annog cofnodi enwau er mwyn eu diogelu i’r dyfodol, a hynny gan ddefnyddio llwybrau ar hyd a lled Cymru yn thema ar gyfer y gwaith.

Mae ein henwau lleoedd yn wynebu bygythiad difrifol a chyson wrth iddynt gael eu newid, eu cyfieithu neu eu diystyru. O’u colli, fe ddiflanna talp sylweddol o’n hetifeddiaeth a dolen gyswllt holl bwysig â’n gorffennol. Yn wahanol i elfennau eraill o’n treftadaeth megis adeiladau, anifeiliaid, a phlanhigion, rhaid gweithredu a’u gwarchod yn niffyg grym deddfwriaethol.

Bwriad y Gymdeithas yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd enwau lleoedd yn lleol a chenedlaethol. Gwneir hyn trwy drefnu sgyrsiau, teithiau cerdded, ac arddangosfeydd.  Bwriedir cynnal, yn ogystal, weithdai a grwpiau trafod er mwyn casglu a chofnodi mân enwau lleol (yn enwedig y rheini sydd wedi eu cadw a’u trosglwyddo hyd yma ar lafar yn unig).  Gobeithiwn hwyluso dadansoddi a dehongli’r enwau hynny. Trwy wneud hyn byddwn yn adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd dan adain Gwarchod, ein prosiect cyntaf i dderbyn cefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol.

 Mae’r prosiect yn berthnasol i Gymru gyfan a bydd croeso i bawb a all wneud cyfraniad. Edrychwn ymlaen i gydweithio ag unigolion, cymdeithasau lleol a sefydliadau cenedlaethol. Wrth wneud hyn byddwn yn estyn ein gweithgarwch i gylchoedd newydd a fydd yn cynnwys y to hŷn, pobl fregus eu hiechyd, a thrigolion ardaloedd llai breintiedig.

Ein gobaith yw y bydd yr enwau a gofnodir yn rhan o’r prosiect yn adnodd gwerthfawr a chynhwysfawr fydd yn hygyrch i bawb drwy ein gwefan.