Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

Sefydlu

SEFYDLU CYMDEITHAS ENWAU LLEOEDD CYMRU

Fis Tachwedd 2010 trefnodd Cymdeithas Edward Llwyd gynhadledd Enwau Lleoedd ym mhlas Tan-y-bwlch Maentwrog, ac ar derfyn y gynhadledd honno, cynhaliwyd ‘sesiwn trafod sefydlu Cymdeithas Enwau Lleoedd i Gymru’. Cafwyd ymateb brwd, cytunwyd mewn egwyddor i sefydlu Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, ac enwebwyd unigolion i ffurfio Pwyllgor Llywio. Daeth y Gymdeithas i fodolaeth mewn Cynhadledd Sefydlu a gynhaliwyd fis Hydref 2011 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy gydweithrediad Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Mae ein diolch yn fawr i’r Llyfrgell Genedlaethol ac i’r Ganolfan Uwchefrydiau am bob cymorth wrth drefnu cynhadledd 2011. A’n diolch lawn mor ddiffuant i’n cyfeillion yng Nghymdeithas Edward Llwyd a hwylusodd y trefniadau yn Nhan-y-bwlch, lle y cawsom ein traed tanom.