Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

KLGF

Cronfa ddata o ffurfiau hanesyddol o enwau lleoedd Sir y Fflint a luniwyd gan Ken Lloyd Gruffydd (1939-2015)

Dros flynyddoedd lawer casglodd Ken Lloyd Gruffydd filoedd o ffurfiau hanesyddol o enwau lleoedd y sir wrth iddo weithio ar brosiectau hanes lleol. Roedd y casgliad yn rhan sylweddol o Place-Names of Flintshire (Hywel Wyn Owen a Ken Lloyd Gruffydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2017).

Cytunwyd y gellid defnyddio cronfa ddata Ken, nid yn unig mewn perthynas â PNF (i ddiben adnabod ffynonellau llai amlwg), ond y dylai’r gronfa ddod yn arf ymchwil annibynnol. Mae manylion pellach i’w gweld ar dudalennau xii-xiii o PNF.

Fe welir sawl rhestr yn KLGF. Mae Rhestr A yn cynnwys ffynonellau a ffurfiau i’r 800 enw sy yn PNF (enwau ar fapiau Landranger yr Arolwg Ordnans). Mae’r gweddill yn ffurfiau hanesyddol ar gyfer enwau ar fapiau mwy manwl Explorer yr AO, neu yn enwau nad oes modd ar hyn o bryd eu lleoli yn ddaearyddol. Yn aml maent yn cynnwys llai o ffurfiau hanesyddol (oherwydd prinder tystiolaeth), ond mae’r enwau, serch hynny, yn werthfawr i ymchwilwyr y dyfodol.

Yn achlysurol, fe welir ambell sylw gan Ken wrth i rywbeth ei daro wrth iddo drawsgrifio. Cadwyd popeth fel ag yr oedd.

Ers adeg ei farwolaeth (dwy flynedd a hanner cyn cyhoeddi PNF), er chwilio yn ei bapurau, methwyd â dod o hyd i restr gryno o’r dogfennau a ddefnyddiwyd ganddo. Diau bod rhestr o’r fath yn bodoli. Fodd bynnag, mae’r gronfa yn arfer cyfeiriadau llyfryddiaethol safonol.

Mae rhaid cydnabod y gronfa ddata hon ym mhob deunydd ymchwil cyhoeddedig ac anghyhoeddedig.

Hywel Wyn Owen

Gorffennaf 2017

 

Lawrlwytho Cronfa Ddata KLGF – Rhestr A

Lawrlwytho Cronfa Ddata KLGF – Rhestr B

Lawrlwytho Cronfa Ddata KLGF – Rhestr C