Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

18 Hydref 2017: CYLCH CINIO CYMRAEG LLANELLI

David Thorne oedd gwestai Cylch Cinio Cymraeg Llanelli ganol dydd 18 Hydref. Roedd yn gyfle iddo esbonio rhai o enwau lleoedd canol tref y sosban a llwybr yr arfordir. Bu Dai yn byw yn Felin-foel a Llangennech; felly roedd rhaid cynnwys enwau’r ardaloedd hynny hefyd, ond gan fod ganddo gysylltiadau â phentrefi Trimsaran a Phont-iets yn nyffryn Gwendraeth yn ogystal, doedd wiw iddo eu hepgor hwythau o’r drafodaeth. Pryd blasus cyn y sgwrs, a chymdeithasu difyr i ddilyn yn Ystafell Lliedi.