Ar Ddydd Sul 30 Medi cynhaliwyd taith gerdded enwau lleoedd gan y Gymdeithas, o dan arweiniad medrus Angharad Fychan, i ardal Nant-y-moch a Phumlumon. Roedd dros 20 ar y daith a chafwyd cyfle i glywed am darddiad sawl enw hanesyddol ar y ffordd. Mwynhawyd cinio ar lan Llyn Llygad Rheidol, cyn mentro i ddringo i gopa Pumlumon Fawr.