Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

3-11 Awst 2018: Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

Bu ein stondin yn Eisteddfod Caerdydd eleni yn brofiad newydd. Er bod y gofod yn fwy cyfyng ac yn ein rhwystro rhag trefnu gweithgareddau a sgyrsiau fel ym Môn, bu’n hynod o brysur a buddiol. Atebwyd amryw ymholiadau. Bu’r gwirfoddolwyr yn ffyddlon a’u brwdfrydedd yn denu aelodau newydd atom. Cawsom ymweliad gan staff Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a fu’n ymhyfrydu ym mhrysurdeb a bywiogrwydd y stondin. Denwyd diddordeb y di-Gymraeg gan baneli dehongli lleol ar gyfer Rhisga, Caerdydd a Glynebwy. Denodd Ifor Williams yntau nifer o Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys y Prif Weinidog, i adael eu stondin gyfagos ac i ddod atom am sgwrs.