Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

24 Mehefin 2019: Grant Loteri

CYMDEITHAS ENWAU LLEOEDD CYMRU YN SICRHAU CEFNOGAETH GAN Y LOTERI GENEDLAETHOL

Heddiw, cyhoeddodd y Loteri Genedlaethol bod grant o £38,000 wedi ei ddyfarnu i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru ar gyfer datblygu prosiect treftadaeth o’r enw LLWYBRAU. Prif amcanion y prosiect fydd codi ymwybyddiaeth o werth enwau lleoedd fel rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol ac annog cofnodi enwau er mwyn eu diogelu i’r dyfodol, a hynny gan ddefnyddio llwybrau ar hyd a lled Cymru yn thema ar gyfer y gwaith.

Mae ein henwau lleoedd yn wynebu bygythiad difrifol a chyson wrth iddynt gael eu newid, eu cyfieithu neu eu diystyru. O’u colli, fe ddiflanna talp sylweddol o’n hetifeddiaeth a dolen gyswllt holl bwysig â’n gorffennol. Yn wahanol i elfennau eraill o’n treftadaeth megis adeiladau, anifeiliaid, a phlanhigion, rhaid gweithredu a’u gwarchod yn niffyg grym deddfwriaethol.

Dros y ddwy flynedd nesaf bwriad y Gymdeithas yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd enwau lleoedd yn lleol a chenedlaethol. Gwneir hyn trwy drefnu sgyrsiau, teithiau cerdded, ac arddangosfeydd.  Bwriedir cynnal, yn ogystal, weithdai a grwpiau trafod er mwyn casglu a chofnodi mân enwau lleol (yn enwedig y rheini sydd wedi eu cadw a’u trosglwyddo hyd yma ar lafar yn unig).  Gobeithiwn hwyluso dadansoddi a dehongli’r enwau hynny. Trwy wneud hyn byddwn yn adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd dan adain Gwarchod, ein prosiect cyntaf i dderbyn cefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol.

 Mae’r prosiect yn berthnasol i Gymru gyfan a bydd croeso i bawb a all wneud cyfraniad. Edrychwn ymlaen i gydweithio ag unigolion, cymdeithasau lleol a sefydliadau cenedlaethol. Wrth wneud hyn byddwn yn estyn ein gweithgarwch i gylchoedd newydd a fydd yn cynnwys y to hŷn, pobl fregus eu hiechyd, a thrigolion ardaloedd llai breintiedig.

Ein gobaith yw y bydd yr enwau a gofnodir yn rhan o’r prosiect yn adnodd gwerthfawr a chynhwysfawr fydd yn hygyrch i bawb drwy ein gwefan.

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd yr Athro David Thorne, Cadeirydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, “Rŷn ni’n hynod o falch bod y Loteri Genedlaethol wedi dangos ymddiriedaeth yn ein gwaith yn y gorffennol drwy ddyfarnu ail grant i ni. Bydd hyn yn gyfle i ni adeiladu ar y sylfaen gadarn a grëwyd gyda chymorth grant y Loteri i brosiect Gwarchod nôl yn 2013”.

Dywedodd Richard Bellamy, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cymru “Mae cymaint o’n hanes ynghlwm wrth atgofion a phrofiadau pobl gyffredin. Bydd ‘Llwybrau’ yn casglu ac yn cofnodi mân enwau, sef yr enwau lleoedd hynny nad ydyn nhw fel rheol yn cael eu cofnodi ar fapiau swyddogol. Dangosodd ein profiad fod y rhain yn holl bwysig o ran egluro elfennau yn ein hanes ni sydd mewn perygl o ddiflannu. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn gallu cefnogi prosiectau fel hyn sy’n dathlu cyfraniad pobl i’w treftadaeth”.