Rhoddwyd darlith gan Hywel Wyn Owen yn Eglwys Tysilio, Porthaethwy. Mewn golau cannwyll y cyflwynodd Hywel ei ddarlith amser cinio ond roedd hi’n ddarlith ddisglair iawn! Dewisodd nifer o enwau lleol i’w trafod yn naturiol ddwyieithog a chafwyd canmoliaeth fawr. Roedd yn rhyfeddol meddwl nad oedd rhai pobl erioed wedi ystyried enwau lleoedd yn llyfrgell hanes. Mae’n eich sobri braidd ac yn dangos bod angen cenhadu mwy.
