Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

18 Gorffennaf 2017: TAITH GERDDED ENWAU LLEOEDD YN ABERYSTWYTH

Cynhaliwyd taith gerdded enwau lleoedd o amgylch tref Aberystwyth dan arweiniad Gerald Morgan, yr awdur toreithiog a’r hanesydd lleol.

Tywyswyd criw o ryw ugain ohonom ar hyd Rhodfa’r Gogledd, i lawr Heol y Bont, ac at yr harbwr. Tynnwyd sylw at enwau strydoedd ac adeiladau hanesyddol. Dychwelwyd ar hyd y Prom deheuol, Heol y Wig, a’r Porth Bach (gan droi i mewn i Gwrt y Felin Wynt ar y ffordd) ac yn ôl i Ganolfan Morlan ar hyd Stryd Portland.

Llongyfarchiadau i Gerald am lwyddo i agor llygaid pawb, hyd yn oed y rheini ohonom a dybiai ein bod yn gyfarwydd iawn ag Aberystwyth!