Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

4-12 Awst 2017: EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MÔN

Eleni, am y tro cyntaf, llogwyd pabell gennym ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol (gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri). Bu’r fenter yn llwyddiant ysgubol.

Roedd y stondin yn brysur gydol yr wythnos, a llu o ymwelwyr yn galw heibio am sgwrs ac i weld ein paneli arddangos newydd. Cynhaliwyd nifer o weithgareddau a digwyddiadau: helfa enwau lleoedd, sesiynau cofnodi enwau ar y map digidol, sgwrs am enwau lleoedd gan Einion Gruffudd (prosiect Cynefin LlGC) a Rhian Parry, a sesiwn holi gyda Bedwyr Rees am y gyfres boblogaidd Arfordir Cymru.

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd enwau lleoedd, llwyddwyd i feithrin nifer o gysylltiadau newydd, ac i ddenu llu o aelodau newydd.

Ganol yr wythnos, cynhaliwyd darlith gan y Gymdeithas ym Mhabell y Cymdeithasau mewn cydweithrediad â’r Cambrians (Cymdeithas Hynafiaethau Cymru) pan ddaeth cynulleidfa niferus i glywed Glenda Carr yn traddodi ar ‘O ble y daeth enwau lleoedd Môn?’.