Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

26 Ebrill 2017: GWEITHDY COFNODI ENWAU LLEOEDD YN LLANGEFNI

Cynhaliwyd gweithdy cofnodi hen enwau yn Llangefni ar 26 Ebrill gyda chydweithrediad staff Archifau Môn. Canolbwyntiwyd ar gasglu enwau caeau hen blwyfi cyfnod y Degwm (c. 1840) sef Llangefni, Heneglwys, Llangwyllog, Tregaean a Llanddyfnan, er mwyn llenwi bylchau, gan nad yw’r enwau wedi eu cofnodi yn rhestri’r Degwm.

Ymwelodd nifer o bobl frwdfrydig â’r gweithdy yn ystod y dydd a llwyddwyd i gofnodi amryw enwau sy’n dal ar gof gwlad. Daeth amryw â mapiau gydag enwau wedi eu nodi arnynt a bu’n bosibl eu trosglwyddo i’n map digidol. Rydym yn hynod o ddiolchgar i aelodau a gyfrannodd yn hael o’u hymchwil bersonol, yn fapiau, hanesion a rhestri hen enwau.

Darllenwch ragor am y gweithdy yn: http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/39710281