Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

28 Gorffennaf 2020: Anrhydedd i Angharad

Mae’r Orsedd wedi cyhoeddi enwau’r bobl oedd i fod i gael eu hanrhydeddu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, gan gynnwys i’r Wisg Werdd:
Angharad Fychan: Mae Angharad Fychan, Pen-bont Rhydybeddau, Aberystwyth, wedi cyfrannu’n helaeth i faes enwau lleoedd. Er 2011, bu’n ysgrifennydd cydwybodol ac egnïol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, gan ddarlithio’n gyson ar y pwnc. Mae’n arwain teithiau cerdded addysgiadol er mwyn egluro pwysigrwydd enwau lleoedd yn y tirwedd, ac mae’n paratoi colofn enwau lleoedd yn fisol ar gyfer papur bro Y Tincer er 2013. Mae hefyd yn aelod o dîm safoni enwau lleoedd Comisiynydd y Gymraeg. Gwnaeth gyfraniad mawr hefyd yn ei gwaith fel Golygydd Hŷn ar staff Geiriadur Prifysgol Cymru, ac mae graen a brwdfrydedd yn nodweddu ei gwaith bob amser.