Mae pob amser yn hyfryd teithio i Faldwyn ac yn arbennig i hen gwmwd a phentref Ceri. Mae’r pentref tua thair milltir i’r de-ddwyrain o’r Drenewydd ac yn bentref bach prysur.
Braf iawn oedd cael gwahoddiad gan un o’n haelodau, Carrie White a Haneswyr Lleol Ceri i ddod i gynnal gweithdy enwau. Ac wedi cyrraedd y neuadd bentref braf, cawsom ddigon o le i osod ein hoffer ar gyfer rhoi cyflwyniad i’n gwaith fel Cymdeithas a’r hyn allwn ei gynnig i gymunedau fel Ceri.
Daeth Carrie a Jeremy ei gŵr â chasgliad gwerthfawr o luniau o dai’r ardal a gymerwyd ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Daethpwyd o hyd i’r casgliad mewn blwch yn atig un o’r ardal; y lluniau ar sleidiau gwydr. Ysywaeth, doedd dim enwau ar y sleidiau a doedd dim modd eu harchifo yn y Llyfrgell Genedlaethol hebddynt. Cymwynas fawr y ddau oedd cynnal arddangosfa er mwyn cael tystiolaeth ardalwyr o’r lleoliadau ac yna crwydro’r plwyf nes dod o hyd i’r rhai anoddaf. Ychwanegwyd yr enwau i’r sleidiau ac archifwyd y cyfan yn llwyddiannus. Dangoswyd printiau du a gwyn o’r lluniau ynghyd ag eglurhad hanesyddol ar hyd un ochr y neuadd a chawsom ninnau gyfle i grwydro dros ginio a mwynhau’r casgliad.
Daeth dros ddeugain i gofnodi enwau ac i sgwrsio. Rhan o’r croeso oedd y baned a’r cacennau cartref a weinwyd gan wirfoddolwyr.
Roedd ein cyflwyniad yn gyfle i drafod ambell enw cae o Ddegwm y plwyf a dotio at y gymysgedd o enwau Cymraeg a Saesneg, weithiau ar yr un fferm. Ymysg yr enwau Saesneg, cafwyd enwau hynafol Cymraeg fel Swch, Maes, Mays y Crunney (Maes y Gryniau), Pant Shone, Cae Gwaldon, Cae Rhewl, ac eraill wedi eu llygru dros amser, fel Cae Malin a Cyah field. Cafwyd cyfle wedyn i bobl gofnodi ar ein mapiau bras 25 modfedd i’r filltir ac i sgwrsio.
Mae’n fwriad i Carrie a’i grŵp ddal ati i gofnodi ac i ninnau eu cefnogi.