Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

29 Chwefror 2020: Ymgyrch Casglu Enwau Dyffryn Ogwen

Pleser arbennig oedd croesawu cynulleidfa frwdfrydig i Neuadd Ogwen ar fore Sadwrn 29 Chwefror eleni i ddathlu llwyddiant yr ymgyrch i gasglu enwau’r ardal.

Yn y sesiwn gyntaf soniwyd rhywfaint am waith y Gymdeithas, ac yn yr ail sesiwn cafwyd cyflwyníad i enwau pum cae yn yr ardal.

Dewis Ieuan Wyn oedd trafod Waun Fflogyn yng Ngwern Gof Isaf yn Nant y Benglog, enw sy’n tarddu o enw’r aderyn prin bellach sef y cyffylog (‘woodcock’).

Cae’r Deintur oedd gan Thelma Morris, enw ar gae yn y Pandy ar Waun Pandy yn Nhre-garth. Swyddogaeth y pandy oedd pannu gwlân ac ar derfyn y broses rhoddid y gwlân allan i’r haul i’w sychu ar fframiau’r deintur (tenter(-hooks)) i’w atal rhag crebachu.

I Gae Masant Llwyd, ger Fferm Castell ym Mhentir, yr aeth Cynrig Hughes. O’r enw pasant y daw masant, sef ‘crythor meistrolgar’.  Mae’n debyg mai Llwyd oedd enw neu ran o enw crythor a fu’n diddanu gwesteion yn hen blasty diflanedig Plas Pentir gerllaw.

Maes awyr o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd testun Gwynfor Ellis. Ar Gae’r Ffens Lechi yng Nglan Môr Isaf, ar lan y Fenai, sefydlwyd yr awyrborth i hedfan awyrennau i hela llongau tanfor yr Almaenwyr.

Cyfraniad John Llywelyn Williams oedd Cae Gwilym Ddu, tyddyn sydd bellach yn dwyn yr enw Tan-yr-allt ar iseldir plwyf Llanllechid ger Tai’r Meibion. Yr enw dan drafodaeth oedd Buarth y Garnedd, cae a berthynai’n wreiddiol i’r hen dyddyn. Awgrymodd fod gan y buarth gysylltiad uniongyrchol â chrogi William de Breos – Gwilym Brewys neu Gwilym Ddu i’r Cymry – gan Llywelyn Fawr ym mis Mai 1230, ac mai yma yn y buarth hwn y claddwyd ei gorff.