Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

Llyfryddiaeth

Dyma ddetholiad o lyfrau, erthyglau a chofnodolion sy’n ymwneud ag enwau lleoedd Cymru.

Mynegai:
Cyfeirlyfrau Cyffredinol
Cyfeirlyfrau Taleithiol
Cyfeirlyfrau Ardal
Astudiaethau Amrywiol
Enwau Personol

Cyfeirlyfrau Cyffredinol

Charles, B. G. 1938 Non-Celtic Place-names in Wales, London: London Medieval Studies
Hen enwau lleoedd Saesneg a Llychlynneg o arfordiroedd Cymru ac ardaloedd de sir Benfro, penrhyn Gwyr a Bröydd Morgannwg a Gwent

Davies, Elwyn 1957 Rhestr o Enwau Lleoedd, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Rhestr foel o enwau lleoedd Cymru a gynlluniwyd er mwyn rhoi arweiniad ar sut i’w sbelian yn ôl canllawiau modern y Gymraeg.

Lewis, D. Geraint 2007 Y Llyfr Enwau: Enwau’r Wlad / A Check-list of Welsh Place-names, Llandysul: Gomer (£17.99)
Geiriadur o enwau lleoedd ond heb fawr o eglurhad ar gefndir yr enwau.

Nicolaisen, W. F. H. & Gelling, Margaret & Richards, Melville 1970 The Names of Towns and Cities in Britain, London: Batsford
Y cyfeirlyfr gorau sy’n trin enwau trefi pwysicaf Lloegr, Yr Alban a Chymru. Melville Richards a oedd â chyfrifoldeb am yr enwau yng Nghymru. Dyma’r fan orau i ddod o hyd i driniaeth o enwau trefi fel Port-Talbot,Ebbw Vale, a.y.y.b., na cheir mo’u holion yn y Canol Oesoedd gan iddynt ddatblygu’n lled-ddiweddar yn sgîl twf diwydiant yng Nghymru ar ôl y ddeunawfed ganrif.

Owen, Hywel Wyn 1998 The Place-names of Wales: a Pocket Guide, Cardiff: University of Wales Press / The Western Mail (£4.95)
Y llyfryn mwyaf hylaw ar gyfer cael eglurhad o brif enwau lleoedd Cymru.

Owen, Hywel Wyn & Morgan, Richard. 2007. Dictionary of the Place-names of Wales, Llandysul: Gomer. (£29.99).
Y cyfeirlyfr gorau i enwau lleoedd Cymru.

Pierce, Gwynedd O. 1995 ‘Welsh place-name studies: the background’ in Archaeologia Cambrensis cyf.144 tt.26–36
Cyfrif ar hanes ac ar ddatblygiad astudio enwau lleoedd Cymru.

Richards, Melville 1969 Welsh Administrative and Territorial Units, Cardiff: University of Wales Press
Rhestr foel o enwau tiriogaethol Cymru na cheir mohonynt ar fapiau.

Richards, Melville 1998 Enwau Tir a Gwlad, Caernarfon: Gwasg Gwynedd (£12.95)
Casgliad o gyfres o erthyglau a ymddangosodd gyntaf yn y Cymro rhwng 1967 a 1970. Dyma oedd y driniaeth lawnaf ar enwau tiriogaethol ac enwau plwyfi hyd gyhoeddi Owen & Morgan 2007.

Thomas, R. J. 1938 Enwau Afonydd a Nentydd Cymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Dyma driniaeth o’r dosbarth anoddaf o enwau lleoedd Cymraeg: enwau afonydd. Dewisodd yr awdur drefnu yr enwau yn ôl ôlddodiaid cyffredin, ac mae ei waith yn dilyn dwy erthygl a gyhoeddwyd yn Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, sef: ‘Enwau afonydd â’r ôlddodiad –wy‘ (1934) cyf.7 tt.117–33 a (1935) cyf.8 tt.27–43. Ni lwyddodd R. J. Thomas i gyhoeddi’r ail gyfrol ar enwau afonydd a nentydd Cymru.

Williams, Ifor 1945 Enwau Lleoedd, Lerpwl: Gwasg y Brython
Llyfryn difyr yn egluro enwau lleoedd yn ymwneud yn bennaf â themâu naturiol megis tirwedd, dyfroedd a thyfiant.

Wmffre, Iwan 2003 Language and Place-names in Wales: the Evidence of Toponymy in Cardiganshire, Cardiff: University of Wales Press (£60)
Triniaeth fanwl o reolau seinegol yn y Gymraeg a’u datblygiadau hanesyddol a thafodieithol wrth ymwneud ag enwau lleoedd. Dyry fethodoleg a moddion i egluro rheoleidd-dra llawer o’r amrywiaethau a geir o fewn yr enwau lleoedd.

Cyfeirlyfrau Taleithiol

Charles, B. G. 1992 The Place-names of Pembrokeshire cyf. 1–2, Aberystwyth: National Library of Wales
Cyfeirlyfr sirol cynhwysfawr. Mae’n drysor o gyfeiriadau sy’n dilyn patrwm cyfrolau’r EPNS.

Davies, Ellis 1959 Flintshire Place-names, Cardiff: University of Wales Press
Cyfeirlyfr at enwau lleoedd pennaf Sir Fflint.

Jones, Gwilym T. & Roberts, Tomos 1996 Enwau Lleoedd Môn, Bangor: Cyngor Sir Ynys Môn / Canolfan Ymchwil Cymru
Llyfr dwyieithog yn trafod enwau lleoedd pennaf sir Fôn yn ôl dosbarthau thematig. Mae’r cyflwyno ychydig yn anarferol ac ni roddir ffurfiau hanesyddol fel rheol.

Jones, Howard C. 1976 Place Names in Glamorgan, Risca: Starling Press
Llyfryn derbyniol am enwau lleoedd sir Forgannwg ond heb gyfeiriadau at ffurfiau hanesyddol. Rhodder blaenoriaeth i esboniadau Pierce 1984.

Laporte, Nadine I. 1993 Welsh Place-names in Patagonia, traethawd MA Prifysgol Cymru (Bangor)
Er nad yw’r traethawd yn nodi llawer o ffurfiau hanesyddol, erys yr unig ffynhonell rwydd i’w chanfod o enwau lleoedd Cymraeg yn y wladfa Gymreig yn yr Ariannin, De’r Amerig. Prif ddiddordeb y 400 o enwau a drafodir yw’r ffaith eu bod yn gynrychiadol o enwau lleoedd Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan na fathwyd yr un enw cyn glaniad y Cymry ym 1865.

Lloyd-Jones, John 1928 Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Cyfeirlyfr sy’n trin enwau lleoedd sir Gaernarfon yn ôl dosbarthau thematig. Ni roddir ffurfiau hanesyddol fel rheol.

Morgan, Richard 1998 A Study of Radnorshire Place-names, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£4.50)
Cyfeirlyfr at enwau lleoedd pennaf sir Faesyfed.

Morgan, Richard 2001 A Study of Montgomeryshire Place-names, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£4.95)
Cyfeirlyfr at enwau lleoedd pennaf sir Drefaldwyn.

Morgan, Richard 2003 Enwau Lleoedd ym Maldwyn, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£4.95)
Cyfieithiad Cymraeg o R. Morgan 2001.
Cyfeirlyfr at enwau lleoedd pennaf sir Drefaldwyn.

Morgan, Richard 2005 Place-names of Gwent, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£6.50)
Cyfeirlyfr at enwau lleoedd pennaf sir Fynwy.

Morgan, Richard & Powell, R. F. Peter 1999 A Study of Breconshire Place-names, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£4.50)
Cyfeirlyfr at enwau lleoedd pennaf sir Frycheiniog.

Pierce, Gwynedd O. 1984 ‘The evidence of place-names’ in Hubert N. Savoy (gol.) Glamorgan County Historycyf.2 tt.456–92
Trafodaeth yn ôl dosbarthau thematig o enwau lleoedd sir Forgannwg.

Williams, T. H. 1931 The Study of the Place-names of Merioneth, traethawd MA Prifysgol Cymru
Cyfeirlyfr at enwau lleoedd pennaf sir Feirionnydd.

Wmffre, Iwan 2004 The Place-names of Cardiganshire cyf.1–3, Oxford: Archaeopress (£105)
Cyfeirlyfr cynhwysfawr o enwau lleoedd sir Aberteifi sy’n nodi ynganiadau lleol yr enwau. Wedi ei seilio ar draethawd doethuriaethol 1998.

Cyfeirlyfrau Ardal

Dafydd, Iolo 1980 Enwau Lleoedd Cwmteuddwr, traethawd MA Prifysgol Cymru (Aberystwyth)
Cyfeirlyfr cyflawn i enwau lleoedd Cwmteuddwr gan gynnwys enwau caeau mewn rhai achosion. Mewn ardal lle roedd y Gymraeg ar fin trengi mae’n dda gweld y rhoddid pwys fawr i nodi ynganiad yr enwau.

Fychan, Angharad 2001 Astudiaeth o Enwau Lleoedd Gogledd Cantref Buellt, doethuriaeth Prifysgol Cymru (Aberystwyth)
Cyfeirlyfr cyflawn i enwau lleoedd gogledd Buellt yn sir Frycheiniog.

Gruffydd, Elfed 1999 Ar hyd Ben ’Rallt: Enwau Glannau Môr Penrhyn Llyn, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£4.75)
Y rhestr gyflawnaf o enwau arfordirol yng Nghymru wedi ei gyflwyno’n dda ond gyda’r gwendid nad yw’r lleoliadau wedi eu nodi’n fanwl.

Harries, B. D. 1956 Enwau Lleoedd Hen Arglwyddiaeth Tal y Fan, traethawd MA Prifysgol Cymru
Cyfeirlyfr cyflawn i enwau lleoedd ardal Pen-coed yn sir Forgannwg wedi ei lunio ar batrwm yr EPNS.

John, Deric 1998 Cynon Valley Place-names, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£4.50)
Llyfryn am rai o enwau lleoedd amlycaf ardal Aber-dâr yn sir Forgannwg sydd wedi achub ar waith anghyhoeddedig Thomas 1933.

Owen, Hywel Wyn 1991 Enwau Lleoedd Bro Dyfrdwy ac Alun, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£1.50)
Llyfryn yn trafod prif enwau lleoedd ardaloedd Penarlâg, Caergwrle a’r Wyddgrug yn sir Fflint.

Owen, Hywel Wyn 1994 The Place-names of East Flintshire, Cardiff: University of Wales Press
Cyfeirlyfr cyflawn i enwau lleoedd ardaloedd hanner Saesneg a hanner Cymraeg Penarlâg a Chaergwrle yn sir Fflint ar batrwm yr EPNS. Wedi’i seilio ar draethawd MA 1977 a doethuriaeth 1983.

Pierce, Gwynedd O. 1968 The Place-names of Dinas Powys Hundred, Cardiff: University of Wales Press
Cyfeirlyfr cyflawn i enwau lleoedd ardal y Barri yn sir Forgannwg ar batrwm yr EPNS. Ardal hanner Saesneg hanner Cymraeg. Wedi ei seilio ar draethawd MA 1953.

Thomas, R. J. 1933 Astudiaeth o Enwau Lleoedd Cwmwd Meisgyn gyda Sylw Arbennig i Blwyf Llantrisant, traethawd MA Prifysgol Cymru
Cyfeirlyfr i enwau lleoedd ardal Llantrisant ac Aber-dâr yn sir Forgannwg.

Astudiaethau Amrywiol

ap Dafydd, Myrddin 1991 Welsh Pub Names, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£2.50)
Triniaeth o enwau tafarnau Cymru yn ôl dosbarthau thematig.

ap Dafydd, Myrddin 1997 Enwau Cymraeg ar Dai, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£3.75)
Llyfryn yn rhestru enwau Cymraeg ar dai yn ôl dosbarthau thematig. Arbenigedd y llyfryn yw ei fod yn casglu enwau ‘gwneud’ newydd a welir mewn trefi a phentrefi ac na welir cymaint mewn astudiaethau arferol.

Jones, Bedwyr Lewis 1991 Enwau, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£1.75)
Llyfryn yn sôn am brif enwau siroedd a threfi Cymru.

Jones, Bedwyr Lewis 1992 Yn ei Elfen, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£3.50)
Llyfryn difyr yn sôn am enwau lleoedd tywyll eu golwg yn erthyglau byrion. Cyhoeddwyd yr erthyglau yn gyntaf yng ngholofn ‘Y Ditectif Geiriau’ ym mhapur newydd y Western Mail.

Lias, Anthony 1994 A Guide to Welsh Place-names, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£3.50)
Llyfryn tra defnyddiol i gyflwyno enwau lleoedd Cymraeg.

Owen, Hywel Wyn 1987 ‘English place-name patterns and Welsh stress-patterns’ in Nomina cyf.12 tt.99–114
Erthygl bwysig yn dangos sut y diogelwyd hen ffurfiau ar enwau Saesneg gan acen-bwys obennol y Gymraeg.

Pierce, Gwynedd O. & Roberts, Tomos & Owen, Hywel Wyn 1997 Ar Draws Gwlad, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£4.50)
Llyfryn difyr yn dilyn yr un cwys ag erthyglau Bedwyr Lewis Jones ar enwau lleoedd ac a gyhoeddwyd yn gyntaf yng ngholofn ‘Y Ditectif Geiriau’ ym mhapur newydd y Western Mail.

Pierce, Gwynedd O. & Roberts, Tomos 1999 Ar Draws Gwlad 2, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£4.50)
Llyfryn difyr yn dilyn yr un cwys ag Ar Draws Gwlad 1997.

Pierce, Gwynedd O. 2002 Place-names in Glamorgan, Cardiff: Merton Priory (£14.95)
Llyfryn difyr yn cynnwys fersiynau Saesneg o ryw 150 o erthyglau a gyhoeddwyd yn gyntaf, gan fwyaf, yn y Gymraeg yng ngholofn ‘Y Ditectif Geiriau’ ym mhapur newydd y Western Mail. Cyfyngir y driniaeth i enwau lleoedd yn sir Forgannwg.

Rees, J. Derfel 1981 Ar eu Talcennau, Abertawe: Ty John Penry
Trafodaeth o enwau capeli anghydffurfiol Cymraeg yn ôl dosbarthau thematig. O safbwynt astudiaeth enwau lleoedd mae’r driniaeth braidd yn oriog gydag ymhelaethiadau difyr am sawl cysylltiad sydd â’r capeli.

Richards, Melville 1960 ‘The Irish settlements in southwest Wales’ in Journal of the Royal Society of Antiquaries of Ireland cyf.90 tt.133–62
Erthygl enghreifftiol o’r ffordd y gall dosbarthiad elfen mewn enwau lleoedd – cnwc – gael ei ddefnyddio i geisio deall hanes bore gwald.

Richards, Melville 1965 ‘Early Welsh territorial suffixes’ in Journal of the Royal Society of Antiquaries of Ireland cyf.95 tt.205–12
Erthygl ddiddorol yn dangos y ffordd yr enwyd un o’r haenau hynaf o enwau lleoedd Cymru enwau’r hen gantrefi a chymydau.

Richards, Melville 1968 ‘Ecclesiastical and secular in Medieval Welsh settlement’ in Studia Celtica cyf.3 tt.9–18
Erthygl ddiddorol yn dangos bod sawl eglwys blwyfol yng Nghymru ag enw lleyg ac enw eglwysig.

Thomas, Colin 1974 ‘Place-name analysis in the geographical study of the rural landscape of Wales’ in Studia Celtica cyf.8–9 tt.299–318
Erthygl arloesol sy’n dangos y fantais o astudio dosbarthiad elfennau mewn enwau caeau yn y tirlun i gael gwell ddealtwriaeth o union ystyr yr elfennau. Yma mae’r awdur yn astudio dosbarthiad elfennau ym mhlwyfi Llanycil a Llanfachreth (sir Feirionnydd).

Thomas, Colin 1980 ‘Place-name studies and agrarian colonization in North Wales’ in Welsh History Review cyf.10 tt.155–71
Erthygl arall ar batrwm C. Thomas (1974). Yma mae’r awdur yn astudio’n bellach dosbarthiad elfennau ym mhlwyfi Llanycil, Llanfachreth ac Aberdyfi (sir Feirionnydd).

Wade-Evans, A. W. 1935 ‘Pembrokeshire notes’ in Archaeologia Cambrensis cyf.90 tt.123–34
Pwtyn o erthygl fer sy’n bwysig oblegid taw yma y gosodwyd y ddadl gynharaf i gyd i bwysleisio pwysigrwydd y weithred o gasglu ynganiadau lleol wrth astudio enwau lleoedd. I gyflawni ergyd ei ddadleuon cyfeiriodd Wade-Evans at sawl enghraifft o fersiwn lafar leol o enw lle yn sir Benfro nad oedd yn cytuno â ffurfiau’r mapiau swyddogol.

Enwau Personol

ap Dafydd, Myrddin 1997 Llysenwau, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch (£2.75)
Llyfryn hylaw sy’n trin llysenwau yn ôl dosbarthau thematig.

Lewis, D. Geraint 2001 Welsh Names, New Lanark: Geddes & Grosset (£2.99)
Llyfryn hylaw yn rhestru nifer o enwau personol ond heb fawr o eglurhad ar gefndir yr enwau.

Lloyd, John E. 1888 ‘The personal name-system in Old Welsh’ in Cymmrodor cyf.9 tt.39–55
Y cyflwyniad gorau i hen enwau brodorol Cymraeg.

Morgan, T. J. & Morgan, Prys 1985 Welsh Surnames, Cardiff: University of Wales Press
Llyfr braidd yn ddi-raen ond eto’n ffynhonell ddihafal o ffurfiau ac esboniadau am enwau personol oedd yn boblogaidd yng Nghymru o’r Canol Oesoedd ymlaen.

Rowlands, John & Rowlands, Sheila 1996 The Surnames of Wales, Birmingham: Federation of Family History Societies
Llyfr ardderchog sy’n rhoi dosbarthiad enwau teuluoedd Cymru y bedwaredd ganrif ar bymtheg boed yn wreiddiol Gymraeg neu’n wreiddiol Saesneg.

Wmffre, Iwan 2006 ‘Welsh personal-names: a survey of their evolution through the ages’ in Zunamen: Zeitschrift für Namenforschung cyf.1 tt.147–74
Y cyflwyniad cryno diweddaraf yn delio ag enwau personol y Gymraeg.