Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

Sefydlu Cymdeithas Enwau Lleoedd yng Nghymru

gan Hywel Wyn Owen

(Crynodeb o bapur agoriadol Cynhadledd Enwau Lleoedd
Plas Tan y Bwlch, 20 Tachwedd 2010)

Enwau yn llawn barddoniaeth –ac enwau
sy’n gân o chwedloniaeth;
hen enwau ein hunaniaeth
ydyw’r rhain o drum i draeth.

Meirion MacIntyre Huws

Mae presenoldeb a chyflwyniad Gweinidog Treftadaeth Cynulliad Cymru (Alun ffred Jones) yn tanlinellu pwysigrwydd enwau lleoedd yn hanes a diwylliant y genedl.

Fe all cymdeithas enwau lleoedd gyrchu at ddwy nod, sef hybu’r astudiaeth o enwau lleoedd a lledaenu gwybodaeth am enwau lleoedd.

Astudio enwau lleoedd

Methodoleg astudio enwau lleoedd yw cofnodi, dadansoddi a dehongli. Man cychwyn astudio enwau lleoedd yw casglu a chofnodi tystiolaeth hanesyddol, ar glawr ac ar lafar, i sicrhau ein bod cyn agosed â phosibl i’r hyn a welodd y sawl roddodd enw i ffrwd a ffridd, i dyddyn ac i dreflan. Yn amlach na pheidio, mae hyn yn gofyn am flynyddoedd o waith caib a rhaw. Yna, rhaid dadansoddi’r enw yn ieithyddol, er mwyn deall tarddiad ac ystyr yr enw, proses sy’n gofyn am wybodaeth fanwl o iaith. Wedyn, rhaid dehongli’r eglurhad hwnnw, gosod yr enw yn ei gynefin, sy’n gofyn am ymweld â lleoliad arbennig neu ymgynghori â thrigolion bro a chydnabod rôl bwysig gwybodaeth am gynefin a hanes lleol.

Yng Nghymru, mae llawer iawn wedi’i gyflawni a’i gyhoeddi eisoes gan ysgolheigion o Syr Ifor, Yr Athro Melville Richards a’r Athro Gwynedd Pierce ymlaen. Ond prin iawn yw’r arbenigwyr hyn, a sawl rhan o Gymru heb astudiaeth fanwl ddibynadwy. Mae lle i gredu mai’r ffactor sy’n ein dal yn ôl wrth ddadansoddi enwau yw prinder graddedigion sy wedi arbenigo mewn iaith.

Efallai y dylid rhoi lle amlwg i’r cam cyntaf o gasglu a chofnodi. Bu sawl prosiect eisoes yng Nghymru a gododd ymwybyddiaeth o gyfoeth enwau trwy gasglu a chofnodi. Rôl allweddol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru fyddai hybu a chynnal prosiectau casglu. Rôl amlwg arall fyddai amddiffyn a diogelu enwau sy dan fygythiad am wahanol resymau, a thrwy hynny godi ymwybyddiaeth o ystyr ac arwyddocâd enwau yn eu cynefin. Byddai prosiectau cofnodi dan reolaeth glir yn gyfraniad amrhisiadwy i astudio enwau lleoedd Cymru.

Rhannu gwybodaeth am enwau lleoedd

Nod arall i’r gymdeithas fyddai rhannu’r wybodaeth am enwau lleoedd. Mae diddordeb rhyfeddol yng Nghymru yn ein henwau, a’r awydd i adnabod a dehongli ein cynefin yn cael ei adlewyrchu yn ein diwylliant a’n haddysg ni, ein llên gwerin a’n traddodiadau llafar. Maent yn hanfod ein treftadaeth.

Yn wir, mi gredaf yn bersonol mai’r ymwybyddiaeth o arwyddocâd enwau sy’n ein gwneud ni’n wahanol i drigolion tu draw i Glawdd Offa.

Am fod treflan, llan a llain i ni’n fwy
Na rhyw fannau bychain,
Yr ym, wrth roi enw i’r rhain,
Yn ein henwi ni’n hunain.

Ceri Wyn Jones

Dyma restr bersonol o egwyddorion hanfodol i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.

  • Sicrhau lledaenu gwybodaeth am ein henwau, mewn cynadleddau a thrwy gyhoeddi mewn cylchgronnau sy’n bodoli eisoes, a thrwy godi ymwybyddiaeth gyhoeddus.
  • Hybu a noddi’r astudiaeth o enwau lleoedd, trwy ysgogi a hyfforddi’r broses o gofnodi, a thrwy gynnal ymchwilwyr.
  • Delio â holl enwau Cymru, beth bynnag eu tarddiad ieithyddol.
  • Agor y drysau i aelodau Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd, gan gynnwys aelodau o tu allan i Gymru, a chroesawu’r cyfle i wrando ar unrhyw bapur a fyddai’n taflu goleuni ar enwau lleoedd Cymru.

Fe ddylem heddiw wneud hyn o leiaf:

  • Cymeradwyo mewn egwyddor fodolaeth Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.
  • Cytuno i gynnal cynhadledd gyntaf y Gymdeithas yn 2011.
  • Cychwyn creu rhestr o brosiectau enwau sydd eisoes ar y gweill.
  • Enwebu aelodau o bwyllgor llywio i hwyluso trefniadau’r misoedd cyntaf.

Mae hyn oll yn gyraeddadwy ac yn deilwng o un o drysorau’r genedl, ein henwau lleoedd, ‘hen enwau ein hunaniaeth’.