Mae Richard Morgan yn rhoi mynediad yn garedig i’r Gymdeithas i’w gronfa ddata o dystiolaeth i enwau lleoedd – yn bennaf yn ymwneud â de Cymru a Sir Drefaldwyn. Mae’n cwmpasu tua 60,000 o enwau lleoedd, enwau tai, enwau caeau, ac ati, ac yn fwy na thebyg dros 500,000 o gyfeiriadau hanesyddol, a gasglwyd dros gyfnod hir. Cymerir llawer o’r dystiolaeth o ffynonellau nad ydynt ar lein.
I ddechrau, mae’r fersiwn ar lein (https://www.cymdeithasenwaulleoedd.cymru/resources/richard-morgan-archive) yn cynnwys cyflwyniad, llyfryddiaeth, a’r data ar gyfer y llythrennau a– b– ac c-. Ychwaneguir ato’n rheolaidd.
Mae Richard yn frodor o Wrecsam, yn gyn-archifydd yn Amwythig, Llandrindod, a Chaerdydd, ac yn ddarlithydd anrhydeddus yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Mae wedi cyfrannu at gyfnodolion hanesyddol Cymru dros gyfnod o fwy na deugain mlynedd ar themâu hanes canoloesol ac enwau lleoedd. Ef yw awdur Place-Names of Glamorgan, Place-Names of Carmarthenshire, Place-Names of Montgomeryshire, a sawl cyhoeddiad byrrach ar enwau lleoedd pum sir hanesyddol yng Nghymru. Mae’n gyd-awdur y Dictionary of the Place-Names of Wales gyda’r Athro Hywel Wyn Owen, ac mae’n aelod o’r Gymdeithas oddi ar y cychwyn.