Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

Hanes Prosiect Perci Penfro

Deilliodd Perci Penfro o Barneriaeth Ogam, menter a ddatblygwyd ar y cŷd rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Menter Iaith Sir Benfro ynghyd â phartneriaid eraill gyda’r bwriad o amlygu’r cysylltiad clos – yn enwedig i Gymry Cymraeg – yn y berthynas rhwng ein treftadaeth ddiwylliannol a ieithyddol a’r byd naturiol o’n cwmpas.

Ond pam cofnodi enwai perci (neu gaeau i weddill Cymru!)? Mae’n weithgaredd gwerthfawr ynddo fe’i hun, sydd hefyd yn help i hysbysu penderfyniadau ynglyn â defnydd tir a gwarchod rhywogaethau , cynefinoedd a thirweddau. Mae hefyd yn caniatáu i ni ddehongli a deall esblygiad ein tirwedd hanesyddol.

Fel prosiect lleol i Benfro, mae’n gronfa werthfawr, weladwy a chlywadwy o dafodiaeth y Ddyfedeg ac yn fodd iw chyflwyno tu hwnt iw ffiniau naturiol, yn enwedig o gofio ei bod dan fygythiad trwy erledigaeth y byd addysg a’r cyfryngau torfol.

Bu’r prosiect yn sbardun i frwdfrydedd a gweithgaredd cymunedol. Grŵp bach o unigolion brwdfrydig fu’n bennaf gyfrifol am gasglu’r mwyafrif o enwau. Rheini wedi eu trosglwyddo fel haenen ar fap digidiol ar raglan Map Info gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Ystyrir technoleg gwybodaeth yn allweddol i lwyddiant menter casglu enawau ond rhaid safoni – yr hyn a gesglir a’r modd ei cofnodir (led led Cymru).

Dim ond wedi crafu’r wyneb mae Perci Penfro – mae llawer mwy i’w wneud. Mae diffyg adnoddau wedi golygu fod y prosiect wedi colli momentwm. Bydd ffurfio Cymdeithas Enwau Cymru, gobeithio, yn ysgogiad i atgyfodi ac ehangu gweithgareddau Perci Penfro, ac mae’r newyddion am brosiect Merched y Wawr yn hynod cyffroes. Rydym bellach wedi cysylltu â Llywydd Rhanbarth Penfro Merched y Wawr ar ôl y gynhadledd ac mae hi’n awyddus i gyd-weithio a defnyddio yr hyn sydd eisioes ar glawr trwy Perci Penfro.

Geraint Wyn Jones