Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

Hanes Prosiect Adnabod Ardudwy

Cyflwynodd Rhian Parry hanes Prosiect Adnabod Ardudwy. Fe’i seiliwyd ar ffrwyth ei hymchwil yn Ardudwy lle y defnyddiodd enwau tiroedd i ddatgloi peth o hanes a diwylliant yr ardal.

Gwelai debygrwydd rhwng datblygu prosiect a chychwyn cymdeithas. Disgrifiodd rhai o nodweddion y prosiect a weithiodd yn dda. Eglurodd fanteision gweithio gyda nifer o gyfranogwyr sefydliadol a chymdeithasau lleol.

Amlinellodd eu hymdrechion i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o werth enwau a’r brys i’w gwarchod. Yn wahanol i anifeiliaid prin, ecoleg ac adeiladau hynafol, mae enwau hanesyddol dan warchae, heb unrhyw ddeddf i’w gwarchod. Bu’n hybu’r syniad hwn ers degawd a dyma un o brif ddibenion y prosiect. Trefnwyd gweithdai ar sut i fynd ati i gofnodi tystiolaeth lafar, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Awgrymodd fod trin enwau yn ffordd o ychwanegu at ein gwybodaeth o ddiwylliant a hanes ac yn cryfhau’r ddadl dros yr angen i’w gwarchod. Gallai cymdeithas enwau gwmpasu llawer gwahanol ffordd o ymdrin ag enwau. Nid mater hawdd fydd sefydlu mudiad hefo amcanion sy’n greadigol a heriol ond hefyd yn ymarferol.

Awgrymodd fod angen chwalu’r syniad bod gwaith academaidd yn ddyrys, diflas a chymhleth. Defnyddid y ddadl hon weithiau er mwyn osgoi gwneud gwaith o safon dda. Mae’n hawdd ymddangos yn nawddoglyd wrth wneud gweithgareddau’n rhy syml.

Mae enwau’n perthyn i gyfnodau arbennig mewn hanes ac yn datgelu llawer am y gorffennol. Mae bylchau yng nghofnodion cenedlaethol rhai enwau ac ardaloedd a hynny ar amrywiol gyfnodau hanesyddol. Awgrymodd yr angen am strategaeth genedlaethol ar gyfer casglu enwau a’u gosod ar fapiau. Serch fod gosod mapiau ag enwau ar wefannau yn ddrud a chymhleth, mae modd goresgyn anawsterau. Ni ddylid anelu at yr hyn sy’n bosibl heddiw yn unig. Mae camau breision ym myd technoleg a’r newidiadau yn agwedd yr Arolwg Ordnans yn ein hannog i fod yn fwy uchelgeisiol.

Gwahoddwyd ysgolion cynradd i gymryd rhan yn y prosiect. Llwyddodd rhai athrawon i weld potential y themâu i gyflwyno a chwmpasu gofynion

y Cwricwlwm newydd ac i ddysgu sgiliau lefel uwch fel ymchwilio, arsylwi, trafod, cymharu, dethol a chyflwyno (gan gynnwys cân actol yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Cyfeiriwyd at y gwaith ardderchog yn Llanllwni gyda’r Athro David Thorne.

Ysywaeth, nid oedd rhai sefydliadau cenedlaethol yn gallu cymryd rhan ac ni welai rhai sefydliadau sy’n gweithio ym myd ecoleg, bywyd gwyllt, amaeth a chadwraeth, berthnasedd enwau i’w gwaith yng Ngwynedd. Dangoswyd enghreifftiau o’r diffyg dealltwriaeth ac ymroddiad i warchod enwau.

Mae colli enwau’n ofid mawr. Defnyddiwyd yr enghraifft o’r enw ‘Gafael Crwm,’ un a gofnodwyd yn 1420 cyn bod son am ffermydd a chaeau. Dangoswyd yr enw ar fap yn 1790 ac yn Negwm 1840. Ugain mlynedd yn ôl fe’u newidiwyd i ‘Gefail y Cwm’ oherwydd na allai cymdogion gynnig eglurhad o’r enw i’r perchnogion newydd. Dyma golli’r enw gafael olaf yn Ardudwy.

Lansiwyd gwefan gyda mapiau Degwm, mapiau Arolwg Ordnans ac awyrluniau arni. Seiliwyd gwaith yr artist ar ymchwil Dr Colin Thomas i enwau tiroedd amaethyddol, gan gynnwys arwyddocâd yr enw ‘Gwern’. Gosodwyd nifer o luniau llystyfiant Ardudwy ar gyfnodau hanesyddol penodol, ar fodel 3D.

Yn ystod y prosiect, daethpwyd ar draws nifer fawr o gymdeithasau, sefydliadau ac ymchwilwyr brwdfrydig ar draws Cymru â diddordeb mewn enwau. Byddai’n fanteisiol eu cynnwys mewn trafodaethau. Ni wnaed arolwg o’r grwpiau hyn na’r ffynonellau data sy’n bodoli eisoes.

Disgrifiodd fel bu pwyllgor llywio’r prosiect wrthi’n ystyried, trafod a chynllunio’n fanwl cyn penderfynu ar gynnwys a strwythur y fenter, a manteision hyn. Gobeithiai y byddai profiadau’r prosiect o ddefnydd wrth gynllunio cymdeithas enwau lleoedd yng Nghymru.