Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

Enwau lleoedd yng ngwaith Guto’r Glyn

Rhwng 2008 a 2012, dan nawdd Cyngor y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a Phrifysgol Cymru, cynhaliwyd prosiect dan arweiniad Ann Parry Owen yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd i greu golygiad newydd dwyieithog o holl waith Guto’r Glyn. Ffrwyth y prosiect hwnnw yw’r golygiad electronig, Gwefan Guto’r Glyn, www.gutorglyn.net. Golygir yno 135 o gerddi (125 yn enw Guto a’r gweddill gan gyfoeswyr a fu’n ymryson gyda ef). Bu Guto yn canu i noddwyr ar hyd a lled Cymru a’r Gororau, gan gynnwys lleoedd yn swyddi Amwythig a Henffordd. Mae ei gerddi yn gyforiog o enwau lleoedd, ac mae natur gaeth y canu (yr odl, hyd y llinell, y gynghanedd yn ogystal â’i haceniad) yn aml yn cynnig arweiniad gwerthfawr i ni ynglŷn â sut yr yngenid yr enwau yn ei gyfnod.

Gellir lawrlwytho mynegai llawn i enwau lleoedd ym marddoniaeth Guto’r Glyn yma