Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

Elfennau personol yn enwau aneddiadau ardal Caernarfon

Yn y sesiwn ar gyfoeth ein henwau lleoedd trafododd Glenda Carr rai enwau tai ag enw personol yn elfen ynddynt. Canolbwyntiodd ar y ‘bobl ddŵad’ a ddaeth i gyffiniau Caernarfon o Loegr. Cyfeiriodd at y teulu Bold o Sir Gaerhirfryn a adawodd eu henw yn Cae Bold, a’r teulu Hinckley, o bosib o Swydd Gaerlŷr, a goffeir yn enw Maesincla. Dangosodd fel y cymreigiwyd rhai o’r teuluoedd hyn gydag amser. Yr oedd y ‘William, son of Walter Haunton’ a gofnodwyd yng Nghaernarfon yn 1370 wedi troi’n Gwilym ap Wat erbyn 1396 a chwaraeodd y gŵr hwn ran yng ngwrthryfel Glyn Dŵr. Yr un enw oedd Haunton â’r Hampton a anfarwolwyd yn enwau Cae Hampton gynt a Ffordd Hampton heddiw yng Nghaernarfon.

Cyfaddefodd Glenda Carr fod enw Cae Cristo yn y dref yn peri problem. Mae’n amlwg mai ffurf anwes ar Christopher oedd Cristo, ond mae’n anodd gwybod pwy oedd y gŵr hwn onid yw’r enw yn cyfeirio at Christopher Boulton, gŵr blaenllaw yng Nghaernarfon yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg: yr oedd yna Gae Boulton hefyd yn y dref ar un adeg.

Mae’n ddigon hawdd olrhain y Brereton yn enw Plas Brereton at Andrew Brereton, asiant Syr Thomas Myddleton, a fu farw yn 1649. Ar lafar llurguniwyd yr enw i Plas Botwm. Mae yna Dyddyn Botwm ym mhlwyf Llandwrog, ond er bod dylanwad teulu Brereton yn ymestyn i’r plwyf hwn, awgryma ffurfiau cynnar enw Tyddyn Botwm mai’r cyfenw Bottom neu Botham sydd yno. Ym Mangor, fodd bynnag, datblygodd y Tyddyn Botwm yno o’r cyfenw Bolton.

Teulu arall a chwaraeodd ran amlwg yn nhref Caernarfon , yn arbennig yn yr unfed ganrif ar bymtheg, oedd teulu Beesley a adawodd eu coffadwriaeth yn enw Tyddyn Bisle oddi ar y ffordd i Bont-rug.

Ceir tŷ o’r enw Tyddyn Whiskin ger Caeathro, ac un arall yn Rhosgadfan. Mae’n anodd credu mai enw Cymraeg glân gloyw yw hwn, sef yr enw gwrywaidd Hwysgyn. Gellir yn sicr olrhain enw Tyddyn Whiskin Caeathro at Hwysgyn ap Cynwrig y ceir cyfeiriad ato yn yr ardal yn 1558. Er bod cofnodion enw ‘r Tyddyn Whiskin yn Rhosgadfan yn ddiweddarach mae’n bosib ei fod yn coffau gŵr o’r enw Hwysgyn a oedd yn byw yn Llanwnda yn y bymthegfed ganrif.

Soniwyd wedyn am ddylanwad teulu Glynllifon ar enwau megis Cae Buckley (Cae Ellen Bulkeley gynt) a Cae Spencer. Awgrymwyd y posibilrwydd hefyd mai Dr Wiliam Glyn a anfarwolwyd yn enw Cae Doctor, Llandwrog.