Gofynnwyd i’r Gymdeithas roi cyngor a chefnogaeth i swyddogion Cyngor Ynys Môn, swyddogion llwybr arfordir gogledd Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chyfeillion y Llwybr ym Môn.
Bwriad y cyfeillion oedd gosod polion ar hyd y llwybr yn achlysurol fel bo modd i’r cyhoedd roi eu lleoliad wrth gysylltu gyda’r gwasanaethau brys mewn argyfwng. Mae pob arwydd yn cynnwys rhif grid cenedlaethol a hefyd y rhif sydd wedi ei ddynodi i’r polyn a’r llecyn. Rhennir y llwybr yn ddarnau rhesymol a’i nodi yn ôl cod lliwiau.
Ni fydd y gwasanaethau brys angen enw’r lle gan na fydd hwn o ddefnydd ymarferol iddynt. Ond gwelwyd cyfle i ychwanegu enw lleol i greu diddordeb ac i godi ymwybyddiaeth am enwau lleoedd. Da iawn nhw ynte? Creadigol a blaengar. Dyma osod patrwm ym Môn, un y gellir ei ailadrodd ar ddarn arall o’r llwybr.
Manteisiwyd ar ein cysylltiad mapio GIS efo CNC i greu prosiect bychan sydd ynghlwm â’n map digidol. Roedd hyn yn caniatáu i ni weld ar un map, ein henwau ni, y llwybr, a’r enwau a awgrymwyd gan y Cyfeillion. Gwnaeth hyn y gwaith yn haws o dipyn. Mae Gruff Owen a Sioned Jones yn frwd dros gadw enwau ac yn gallu gweld manteision cydweithio. Felly, dyma afael ynddi rhag blaen. Golygodd gryn ymchwil, gan mai ychydig iawn o enwau lleoedd oedd ar y rhestr gychwynnol.
Dyma’r map fel ag y mae ar wefan Cyfeillion y Llwybr. Ewch i’r ail fap. Mwynhewch.
https://sites.google.com/site/friendsofangleseycoastalpath/detailed_map