Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

Cymdeithasau Enwau Lleoedd Eraill

gan Hywel Wyn Owen

(Crynodeb o bapur yng Ngynhadledd Enwau Lleoedd
Plas Tan y Bwlch, 20 Tachwedd 2010)

English Place-Name Society

Yr EPNS yw’r gymdeithas hynaf o’i bath ym Mhrydain, wedi’i sefydlu yn 1923, gydag un amcan tymor hir, sef cyhoeddi astudiaeth o enwau lleoedd pob sir yn Lloegr mewn cyfrolau safonol. Hyd yma ymdriniwyd â 32 sir mewn 85 cyfrol manwl.

Cyllidir yr EPNS trwy grantiau’r British Academy, yr Arts and Humanities Research Council a thanysgrifiadau aelodau.

Comisiynnir ysgolheigion i ysgrifennu’r cyfrolau sirol, gan weithio i batrwm sefydlog. Ymrwymiad tymor hir yw hyn i bob awdur.

Canolfan yr EPNS yw’r Centre for Name Studies, o fewn Adran Saesneg Prifysgol Nottingham.

Cyhoeddir y Journal of the EPNS yn flynyddol. Rai blynyddoed yn ôl, penderfynwyd tynnu at ei gilydd yr hyn sy’n hysbys am elfennau enwau lleoedd Lloegr (o ba bynnag darddiad ieithyddol) trwy ddistyllu deunydd 80 mlynedd o ymchwil; cyhoeddir y gyfres (The Vocabulary of English Place-Names) yn nhrefn yr wyddor.

Nid yw’r EPNS yn fodel i ni ar hyn o bryd, gan mai cyhoeddi tymor hir yw’r nod. Serch hynny, methodoleg yr EPNS sydd wedi ei fabwysiadu gan bawb a fu’n astudio enwau lleoedd Cymru.

Society for Name Studies in Britain and Ireland

Sefydlwyd yr SNSBI yn 1968 i drafod enwau (nid enwau lleoedd yn unig). Mae’r aelodaeth (dros 200 yn 2009) yn cynnwys unrhyw un sydd â diddordeb mewn enwau yn ogystal ag ysgolheigion. Mae’n cynnwys aelodau o Loegr, Cymru, yr Alban, Iwerddon (de a gogledd), Cernyw, Llydaw a chyfraniadau gan aelodau o Sgandinafia a’r Almaen.

Cynhelir cynhadledd dri diwrnod yn flynyddol adeg y Pasg a chynhadledd undydd yn yr Hydref.

Cyhoeddir cylchgrawn (Nomina) yn flynyddol (yn cynnwys papurau’r gynhadledd flaenorol fel arfer). Cynigir bwrseri i fyfyrwyr, a gwobr am erthygl newydd gan fyfyriwr a gyhoeddir fel arfer yn Nomina.

Cyllidir yr SNSBI trwy danysgrifiad aelodau.

Mae’r SNSBI yn fodel i’w efelychu (ac eithrio ei ffocws ar enwau yn hytrach nag enwau lleoedd),  gyda chynhadledd flynyddol ac aelodaeth eang.