Mae Cofnodion Cyfarfodydd y Pwyllgor Llywio ar gael i aelodau ar ffurf electronig trwy gysylltu ag angharad.fychan@googlemail.com
Cynhadledd Enwau Lleoedd , Plas Tan y Bwlch – Tachwedd 20, 2010
Cofnodion Sesiwn drafod sefydlu Cymdeithas Enwau Lleoedd i Gymru.
Cadeirydd y sesiwn: yr Athro Bruce Griffiths
Ategodd y Cadeirydd mor galonogol oedd gweld cymaint o bobl yn mynychu’r gynhadledd a bod hynny yn argoeli’n dda iawn ar gyfer sefydlu Cymdeithas Enwau Lleoedd i Gymru. Awgrymodd ymateb y gynulleidfa bod consensws bod sefydlu Cymdeithas Enwau Lleoedd i Gymru yn syniad da. Rhybuddiodd y Cadeirydd yn erbyn gor-hoffter y Cymry o sefydlu cymdeithasau a phwyllgorau heb iddynt bwrpas. Pwysleisiodd y dylid dynodi pwrpas i’r Gymdeithas a bod parodrwydd i weithio ymysg aelodau a grŵp llywio y Gymdeithas yn hollbwysig. Cyfeiriodd at esiamplau gwych cymdeithasau enwau lleoedd yr Alban a Lloegr a bod angen adeiladu ar waith Melville Richards a chasglwyr enwau lleoedd eraill.
Cyfeiriodd Iwan Wmffre at bwysigrwydd cofnodi enwau caeau a bod angen cofnodi atgofion ffermwyr ac enwau caeau o’r oes cyn peiriannau fferm. Awgrymodd mai oddeutu deng mlynedd yn unig sydd ar ôl i wneud hyn, cyn i’r wybodaeth fynd yn angof. Byddai’r gwaith casglu yma yn waith pwysig iawn, gan mai caeau ydi oddeutu un rhan o dair o’r Gymru ddaearyddol. Treuliodd Iwan Wmffre bymtheg mlynedd yn casglu enwau lleoedd yn Sir Aberteifi, a phwysleisiodd bod atgofion a gwybodaeth neu gyswllt â’r gorffennol yn cael eu colli yn hawdd: mae’n bwysig cwblhau’r gwaith yma ar frys, gan fod treftadaeth enwau caeau ar ochr y dibyn. Cynigiodd y dylid gwneud hyn drwy:
- Lobïo gweinidogion.
- Siarad yn unfryd.
- Gysylltiadau gydag awdurdodau a all ariannu’r gwaith.
- Waith academyddion.
Datganodd Robin Gwyndaf (Sain Ffagan) mai braint oedd mynychu’r gynhadledd. Mynegodd mor bwysig oedd cydlynnu a chydweithio rhwng unigolion a chyrff sy’n ymwneud â chasglu enwau lleoedd er mwyn sefydlu pa enwau sydd eisoes wedi’u casglu. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd cofnodi’r traddodiadau onomastig sy’n gysylltiedig ag enwau lleoedd. Roedd Robin Gwyndaf hefyd yn cefnogi sefydlu Cymdeithas Enwau Lleoedd, gan alw am Gymdeithas a fyddai’n galluogi Cymru i agor i weddill y byd. Cynigiodd gyfres o nodau ar gyfer cymdeithas enwau lleoedd i Gymru:
- Annog y llywodraeth i gytuno ar un ffurf Cymraeg.
- Peidio cwtogi enwau lleoedd Cymraeg, er enghraifft defnyddio ‘Betws Gwerfyl Goch’ yn hytrach na ‘Betws G.G.’.
- Mynnu gweithredu enwau Cymraeg safonol. Er enghraifft, er mai ‘Llandâf’ yw’r ffurf safonol, defnyddir ‘Llandaff’ ym mhobman ar wahân i arwyddion stryd.
- Deddfau ar enwau lleoedd – enwau Cymraeg yn gyntaf.
Dywedodd y Cadeirydd bod sylwadau Robin Gwyndaf yn ehangach na chylch gorchwyl y Gymdeithas arfaethedig ond bod y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud yn sylfaen.
Pwysleisiodd Alwyn Ifans (Penarth) nad oedd am weld cymdeithas ymgyrchu arall, gan alw am gyfeiriadur o’r enwau a’r wybodaeth sydd eisoes wedi’u casglu ac am ymdrech i gasglu enwau sydd heb eu cofnodi yn barod.
Gofynnodd y Cadeirydd os ddylai Cymdeithas Enwau Lleoedd gasglu enwau neu gefnogi gwaith casglwyr annibynnol. Iwan Wmffre yn cytuno bod angen un llais.
Cynigiodd Dewi Bowen Williams (gwaith ymchwil enwau lleoedd Ewias) y byddai’n ddefnyddiol datblygu meddalwedd i greu templed digidol i gysoni gwaith casglu, fel bod y wybodaeth a gesglir gan wahanol unigolion a chyrff yn gyson.
Ymatebodd Guto Rhys (Glasgow) i hyn drwy gynnig bod pawb yn nodi eu cyfeiriadau e-bost a bod y rhestr hwnnw yn ffurfio basdata a fyddai’n sail i waith Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Cynigodd Guto Rhys ‘Yahoo Groups’ – grŵp enwau lleoedd – fel fforwm trafod ymysg ymchwilwyr enwau lleoedd.
Cyfeiriodd Einion Thomas (Archifydd Prifysgol Bangor) at gais Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i Gronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) i ddigidio mapiau degwm Cymru (sef prosiect ‘Cynefin’). Mae’r cais ar fin mynd i mewn a chrybwyllwyd enw Kim Colllis, Archifdy Abertawe fel pwynt cyswllt.
Cynigiodd Helga Martin (Ysbyty Ifan) y dylid cofnodi pa wybodaeth ac enwau lleoedd sydd eisoes ar gael, er mwyn i eraill fedru llenwi’r bylchau.
Awgrymodd Iwan Wmffre y gallai’r Gymdeithas Enwau Lleoedd gyhoeddi gwaith ymchwil yn y dyfodol.
Cyfeiriodd Trebor Roberts at brosiect enwau lleoedd Merched y Wawr a gofynnodd os fyddai modd cynnig cymorth iddyn nhw, yn hytrach na dyblygu eu gwaith.
Ymatebodd yr Athro Hywel Wyn Owen drwy esbonio trefn prosiect Merched y Wawr a bod rhan helaeth o waith y mudiad yn dibynnu ar ymateb canghennau unigol. Awgrymodd y gallai Gymdeithas Edward Llwyd annog y gwaith ac y gallai aelodau Cymdeithas Edward Llwyd gefnogi gwaith canghennau unigol.
Dywedodd Angharad Fychan y byddai gosod canllawiau ar gyfer casglu enwau lleoedd yn ddefnyddiol, er mwyn unffurfio’r ffordd mae enwau lleoedd yn cael eu cofnodi a gweld y bylchau.
Dywedodd Lowri Williams (Bwrdd yr Iaith Gymraeg) bod yr Athro Hywel Wyn Owen wedi darparu canllawiau i Ferched y Wawr gasglu enwau lleoedd a bod Rhian Parry wedi darparu canllawiau ar gyfer casglwyr prosiect Adnabod Ardudwy. Dywedodd fod angen cysoni a ffurfioli’r drefn a bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi edrych ar ganllawiau Hywel Wyn Owen a’u bod yn datblygu templed syml. Awgrymodd y dylid datblygu templed unffurfiol sy’n priodi y templedi sydd eisoes ar gael.
Awgrymodd yr Athro Gwyn Thomas y dylid llunio rhestr awgrymiadau o’r drafodaeth yma a’i roi o flaen pwyllgor llywio bychan. Byddai aelodau y pwyllgor yn dethol yr amcanion a’u rhoi gerbron y Gymdeithas Enwau Lleoedd i’w hystyried ac hefyd i ystyried posibiliadau cyllidol.
Cynigiodd Brynach Parri (Brycheiniog) y dylid derbyn egwyddor sefydlu Cymdeithas Enwau Lleoedd ac y dylid neilltuo cylch gorchwyl bras ar ei chyfer. Dywedodd fod Cymdeithas Brycheiniog eisoes yn cydweithio â changen Aberhonddu Merched y Wawr ar y prosiect enwau lleoedd. Cynigiodd i siaradwyr y gynhadledd ymgynnull a sefydlu cylch gorchwyl i’r gymdeithas enwau lleoedd.
Cyfeiriodd Alwyn Ifans at y stôr o ffynonellau, prosiectau, traethodau ac ati sydd wedi’u cyhoeddi am enwau lleoedd ac y byddai rhestr o’r rhain yn ddefnyddiol i ffurfio cyfeiriadur o’r enwau sydd eisoes ar gael. Teimlai y byddai’n modd cyflawni hyn yn wirfoddol yn hytrach na chyflogi pobl.
Pwysleisiodd Rhian Williams (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) bwysigrwydd cynaladwedd a chyfeiriodd at brosiectau Cynefin a Chasgliad y Werin (http://www.casgliadywerincymru.co.uk) a fyddai’n galluogi i’r Gymdeithas Enwau Lleoedd gasglu a chyhoeddi ei hymchwil mewn modd cynaladwy.
Ategodd Robin Gwyndaf bwysigrwydd Casgliad y Werin a chynigiodd y dylid cydlynnu. Ategodd Iwan Wmffre yr elfen gydlynnu a dywedodd y byddai mapiau sgerbwd o Gymru, yn cynnwys ffiniau plwyfi, er enghraifft, yn ddefnyddiol. Dywedodd Linda Tomos (CyMAL) bod y mapiau hyn eisoes yn rhan o adnodd Casgliad y Werin. Roedd Iwan Wmffre yn pwysleisio’r angen am fap sgerbwd o Gymru’r G19, gan fod hwn yn gyfnod allweddol yn y broses o gasglu enwau lleoedd.
Cyfeiriodd Linda Tomos at arbenigedd adnoddau Casgliad y Werin, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Amgueddfa Genedlaethol a bod hynny yn ased i’r Gymdeithas Enwau Lleoedd. Byddai’r adnoddau hyn hefyd yn sicrhau cynaladwyedd maes gwaith y gymdeithas enwau lleoedd. Cyfeiriodd hefyd at yr elfen ariannol, gan y byddai unrhyw grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn debygol o gynnwys amod i gydweithio â chyrff a grwpiau eraill.
Cynigiodd Gruffudd Prys, Canolfan Bedwyr y byddai’n sefydlu gwefan i’r gymdeithas enwau lleoedd, gyda chyfrif i’r aelodau. Ymateb gwresog iawn gan y gynulleidfa!
Cododd y Cadeirydd yr awgrym i sefydlu cynhadledd enwau lleoedd flynyddol gyda phwyllgor llywio i’w threfnu.
Cynigiodd Merfyn Wyn Tomos (Archifau Gwynedd) y dylid defnyddio’r we i gyflawni’r helyw o waith y gymdeithas. Cyfeiriodd Duncan Brown at drefn Llên Natur fel model ar gyfer hynny, lle mae bwletin yn cael ei gyhoeddi ar-lein yn fisol a chylchgrawn papur yn cael ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn. Awgrymodd y Cadeirydd bod model Llên Natur yn esiampl ardderchog.
Cynigiwyd yr enwau canlynol ar gyfer aelodaeth pwyllgor llywio y Gymdeithas Enwau Lleoedd: yr Athro Hywel Wyn Owen, Aneurin Phillips, Lowri Williams, David Parsons, yr Athro David Thorne, Iwan Wmffra, Gruffudd Prys, Guto Rhys, Angharad Fychan, Duncan Brown, Rhian Parry, Steffan ab Owain, Twm Elias, Ifor Dylan Williams.
Cynigiodd Ifor Dylan Williams y dylai’r pwyllgor llywio drafod drwy e-bost ar y dechrau.
Pwysleisiodd Alwyn Ifans bwysigrwydd gosod y sylfaen ar gyfer y gwaith a chynigiodd yr Athro Hywel Wyn Owen ei hun yn gynullydd i ddechrau’r gwaith ar gyfer cynhadledd 2011.
Ategodd y Cadeirydd bod hwn wedi bod yn gyfarfod arbennig iawn ac yn ddefnyddiol ar gyfer dulliau casglu a’r casglwyr eu hunain. Cymeradwyodd Lên Natur a Chymdeithas Edward Llwyd am eu gwaith.
Cynigiodd Alwyn Ifans fod aelodau’r pwyllgor llywio yn gyrru pwyntiau bwled yn cynnwys eu cysylltiadau, er mwyn creu cyfeirlyfr / basdata o gysylltiadau ar gyfer y gwaith casglu.
Gofynnodd Geraint Jones (Canolfan Uwch Gwyrfai) beth fyddai iaith gweithredol y Gymdeithas Enwau Lleoedd. Cynigiodd mai Cymraeg yn unig y dylid ei defnyddio.
Gwrthwynebodd Brynach Parri y cynnig, gan y byddai hynny yn estroni ardaloedd dwyrain a de Cymru ac yn hepgor cyfoeth o wybodaeth ac ymchwil sydd eisoes wedi’i gyflawni yno.
Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn awyddus i’r Gymraeg fod yn brif iaith, ond bod y Gymdeithas yn agored i gyfraniadau di-Gymraeg yn ogystal. Dywedodd Alwyn Ifans mai’r Gymraeg fyddai Iaith hanfodol y Gymdeithas, ond bod y drws yn parhau yn agored i gymdeithasau di-Gymraeg. Cyfeiriodd Duncan Brown at drefn Llên Natur, lle croesawir cyfraniadau yn Iaith wreiddiol y ddogfen, ffynhonnell neu enw.
Clowyd y drafodaeth gan y Cadeirydd.