Ar Ddydd Sul 30 Medi cynhaliwyd taith gerdded enwau lleoedd gan y Gymdeithas, o dan arweiniad medrus Angharad Fychan, i ardal Nant-y-moch a Phumlumon. Roedd dros 20 ar y daith a chafwyd cyfle i glywed am darddiad sawl enw hanesyddol Parhau darllen →
Bu ein stondin yn Eisteddfod Caerdydd eleni yn brofiad newydd. Er bod y gofod yn fwy cyfyng ac yn ein rhwystro rhag trefnu gweithgareddau a sgyrsiau fel ym Môn, bu’n hynod o brysur a buddiol. Atebwyd amryw ymholiadau. Bu’r gwirfoddolwyr Parhau darllen →
Nos Fercher, 18 Hydref, bu Richard Huws, yn trafod ei gyfrol, Enwau tai a ffermydd Bont-goch (Elerch), Ceredigion, yng nghwmni aelodau Cymdeithas y Penrhyn, Penrhyn-coch, Aberystwyth. Cafwyd noson ddifyr yn ei gwmni wrth iddo dywys y gynulleidfa ar daith Parhau darllen →
David Thorne oedd gwestai Cylch Cinio Cymraeg Llanelli ganol dydd 18 Hydref. Roedd yn gyfle iddo esbonio rhai o enwau lleoedd canol tref y sosban a llwybr yr arfordir. Bu Dai yn byw yn Felin-foel a Llangennech; felly roedd rhaid Parhau darllen →
Fel rhan o ddigwyddiadau Gŵyl Daniel Owen eleni neilltuwyd 18 Hydref 2017 i lansio llyfr pwysig ar enwau lleoedd sir y Fflint sef Place-Names of Flintshire (Gwasg Prifysgol Cymru) gan Hywel Wyn Owen a’r diweddar Ken Lloyd Gruffydd. Roedd nifer Parhau darllen →
Ar ôl pum mlynedd o deithio i amryw rannau o Gymru, dychwelwyd i Aberystwyth ar gyfer seithfed Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Fe’i cynhaliwyd yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.
Dyma’r criw a etholwyd yn y Cyfarfod Blynyddol ar 7 Hydref i lywio gweithgareddau’r Gymdeithas am y tair blynedd nesaf (o’r chwith i’r dde): David Thorne (Cadeirydd), Ifor Williams (Trysorydd), Richard Huws (Ysgrifennydd Aelodaeth), Hywel Wyn Owen, Gareth Bevan (a Parhau darllen →
Eleni, am y tro cyntaf, llogwyd pabell gennym ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol (gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri). Bu’r fenter yn llwyddiant ysgubol.
Roedd y stondin yn brysur gydol yr wythnos, a llu o ymwelwyr yn galw heibio am Parhau darllen →