Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

15 Hydref: Adroddiad Blynyddol Llwybrau 2019-20

Ni ragwelwyd am eiliad arwyddocâd yr enw ‘Llwybrau’ ar ein hail gynllun loteri pan gafodd ei ddewis.  Yn ôl y cynllun manwl, roedd popeth wedi ei drefnu a’i rag-weld.  Popeth ond Covid a’i effeithiau.  Fel pawb arall, addaswyd ein ffordd o weithio, cadwyd ein cysylltiadau a daliwyd ati i gyfarfod drwy ddulliau amgen.  Roedd y cyfnod clo wedi hwyluso’r gwaith o drosglwyddo’r miloedd o fân enwau a anfonwyd atom i’r map digidol.  Da yw dweud fod y bocsys yn gwagio a’r map yn fwy cyfoethog.  Diolch i bawb anfonodd ddarnau o waith a chasgliadau o enwau ynghyd â map neu rif grid cenedlaethol.

Cyn y Nadolig, cynhaliwyd diwrnod agored Swtan, bwthyn to gwellt ar arfordir Môn, ac unwaith eto, cawsom wahoddiad i gyfrannu. Dangoswyd ffilm fer a wnaed gan Teifi Jones, Llandegfan, o’r holl gilfachau ar hyd milltir o fae Porth Swtan. Gobeithiwn ychwanegu rhan ogleddol yr arfordir pan fedrwn.  Enwir pob cilfach ar y ffilm ac mae’n fodd i ymwelwyr ddysgu am yr hanes sydd ynghlwm wrth enwau o’r fath.

Dylid cofio nad gweithgareddau ar wahân yw gweithgareddau Llwybrau. Yn hytrach maent yn cynnwys yr holl deithiau cerdded, y darlithoedd a’r sgyrsiau a gynhelir ar draws Cymru gan nifer o aelodau gweithgar.

Cafwyd ail weithdy enwau yn Archifdy Morgannwg, profiad braf a chroesawus bob amser.  Cofnodwyd rhai cannoedd o enwau sy wedi eu cofnodi yn siroedd y de-ddwyrain a chafwyd mapiau ar fenthyg. Mae enwau Gwastadeddau Gwent yn ddiddorol ac yn wahanol.

Yn dilyn ein gweithdy llwyddiannus yn Nyffryn Ogwen yn 2018, bu John Llywelyn Williams yn brysur iawn yn dosbarthu ein mapiau i ffermwyr a thrigolion yr ardal. Maent wedi gorffen y gwaith o gofnodi mân enwau eu milltir sgwâr arnynt; ac mae Irene Williams wedi  trosglwyddo dros fil o enwau i’n map digidol.  Nid ar chwarae bach mae gwneud hyn.

Y digwyddiad olaf cyn y clo oedd bore arbennig iawn yn Neuadd Ogwen, Bethesda, i gloriannu’r gwaith ac i ddiolch i’r cyfranwyr a’r cofnodwyr, yn enwedig Gwynfor a Cynrig.  Dan ofal yr Athro Hywel Wyn Owen, cawsom fwynhau cyflwyniadau a thrafodaeth ddifyr iawn gyda Thelma Morris, Cynrig Hughes, Gwynfor Ellis, y Prifardd Ieuan Wyn a John Llywelyn Williams.  Roedd pawb wedi dewis un enw a gasglodd, sef, Cae’r Deintur Bach, Pandy, Tregarth;  Cae Masant Llwyd, Pentir; Cae Ffens Lechi, Glan Môr Isaf; Waun Fflogyn, Gwern y Gof Isaf, Nant y Benglog a Buarth y Garnedd a Chae Gwilym Ddu, Llanllechid.  Cafodd rhai o’r sgyrsiau eu recordio gan Dei Tomos ar gyfer ei raglen nos Sul; a gellir clywed rhai ohonynt ar ein gwefan. Cawsom hefyd adroddiad llawn iawn yn y wasg gan Angharad Tomos ac rydym yn gobeithio cydweithio ar waith o’r fath yn Nyffryn Nantlle, pan ddaw dyddiau gwell. Edrychwn ymlaen at gychwyn arni.

Gohiriwyd cynhadledd SNSBI, sef cymdeithas enwau lleoedd Prydain ac Iwerddon, a chollwyd, am y tro, gyfle i roi cyflwyniad o’n gwaith ni yma yng Nghymru.

Flwyddyn yn ôl, cychwynnwyd ar waith casglu a chofnodi enwau a’u defnyddio i lunio cynllun ym mhlwyfi Llanddeiniolen a Llanberis. Drwy wahoddiad gan Cadi Iolen ar ran yr Amgueddfa Lechi, cawsom gyfle i gydweithio pan oeddynt yn cofio cau’r chwarel. Datblygodd hyn yn effeithiol a chynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ar y cyd yn yr Amgueddfa. 

O hwn, datblygodd cynllun ar y cyd gyda Menter Fachwen. Mae hyn yn caniatáu i drigolion alw heibio i Gareth Roberts yn ei swyddfa i gofnodi enwau ar y mapiau bras ac i adael lluniau, mapiau a hanesion ynglŷn â’r enwau.      Dechreuwyd  cynllunio nifer o arddangosfeydd ar gyfer ysgolion a’r gymuned, teithiau cerdded a mwy, y gweithgareddau oll yn hybu diddordeb mewn enwau lleoedd.  Er gwaethaf cyfyngiadau Covid, mae’r gwaith cynllunio a chreu deunyddiau, ac i raddau, casglu enwau mewn ffyrdd diogel yn parhau. Ychwanegwyd yn sylweddol at ein casgliad o enwau ponciau a sinciau chwareli bychain yr ardal a hefyd chwarel gynharaf Dinorwig. Mae staff yr Amgueddfa yn rhan o’n gwaith ac yn ein hysbrydoli gyda’i brwdfrydedd. Edrychwn ymlaen at gydweithio eto os llwyddir i sicrhau statws Safle Treftadaeth Byd i’r ardaloedd llechi.

Bellach, mae nifer o gynlluniau bychain lleol wedi cyfuno â’n gwaith efo Gareth ac mae’r patrwm hwn o gydweithio yn un gwerthfawr iawn ac yn un i’w efelychu. Llwyddodd Gareth i gasglu mapiau a lluniau o Chwarel Dinorwig dros gyfnodau gwahanol yn ei hanes a bydd yn datblygu hyn i greu darlun byw, drwy ddefnyddio technoleg newydd.

Priodol yma yw datgan gwerthfawrogiad o gyfraniad Ifor Williams.  Mae Ifor wedi cyd-deithio ar draws Cymru, yn gofalu am offer, yn dylunio posteri ac yn sgwrsio’n gartrefol efo’n hymwelwyr mewn gweithdai ac yn yr eisteddfod yn Llanrwst.  Mae’n greiddiol i waith ‘Llwybrau’ fel y bu i ‘Gwarchod’. Mae hefyd yn gofalu am yr arian a’r cyfrifon cymhleth.  Mae ein dyled yn fawr iddo, ac edrychwn ymlaen at ei weld yn gallu ailgydio.

A’r dyfodol?  Rydym ar fin cychwyn ar gyfnod o baratoi ar gyfer ein gwaith fel rhan o gynllun sylweddol y Parc Cenedlaethol, sef ‘Y Carneddau’.  Ni fydd digwyddiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ond rydym fel rhan o ‘Llwybrau’ wedi cytuno i gynnal chwe gweithdy tebyg i’r un ym Methesda, mewn pentrefi ar ymylon y Carneddau. Yn dilyn trafodaethau diweddar, rydym yn ystyried dulliau amgen o weithredu gyda’r cyhoedd, drwy Zoom, e-bost a galwadau ffôn i gefnogi unigolion. Gobeithiwn fedru cyfrannu at waith partneriaid eraill gan ychwanegu enwau lleoedd at eu hymchwil yn y maes amgylcheddol ac archaeolegol.

Mae’r enghraifft a gafwyd gan Y Prifardd Ieuan Wyn ym Methesda, o Waun Fflogyn (llygriad o Waun y Cyff(y)logyn), yn dangos mor ddadlennol y gall enw fod. Os gallwn argyhoeddi’r gwyddonwyr fod enwau yn gallu cyfrannu at eu gwaith ymchwil, bydd yn gam sylweddol ymlaen.

Ddoe bu lansiad cynllun y Carneddau a gosodwyd seiliau cadarn iawn i’r gwaith.  Da oedd clywed droeon mai tirwedd i bobl yr ardal yw hon a bod pwyslais ar yr agweddau diwylliannol yn ogystal â’r amgylcheddol.  Tanlinellwyd hyn gan gyflwyniad arbennig iawn gan un o’n haelodau, sef y Prifardd Ieuan Wyn a chyffyrddodd ei neges â llawer iawn o’r partneriaid.