Map rhyfeddol o Afon Teifi oedd y sbardun ar gyfer Gŵyl y Cynhaeaf eleni yn Aberteifi.
Mae brodor o’r dref, Idris Mathias, ynghyd â’i wraig Beryl, wedi cofnodi dros fil a hanner o fân enwau sydd ynghlwm â’r afon a’i glannau ar fap lliwgar. Roedd copi o’r map yn cael ei arddangos yn y Gyfnewidfa Ŷd yn Aberteifi yn ystod wythnos yr ŵyl. Cymerodd dros ddwy flynedd ar bymtheg iddyn nhw gwblhau’r map sydd dros hanner can troedfedd o hyd. Dechreuwyd ar y gwaith wedi i Idris ddychwelyd o’r Ail Ryfel Byd. Dyma’r waith gyntaf i gopi o’r map gael ei arddangos yn y dref.

Beryl ac Idris Mathias, llunwyr y map.
Yn anffodus doedd Idris ddim yn ddigon hwylus i ddod i’r Gyfnewidfa ar gyfer Clonc yr Ŵyl ond roedd y teulu yno’n grwn i wrando ar David Thorne yn trafod pwysigrwydd cofnodi mân enwau ym maes enwau lleoedd.
Darllenwch ragor am yr Ŵyl yn: http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/41394665