Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru

18 Hydref 2017: CYMDEITHAS Y PENRHYN

Nos Fercher, 18 Hydref, bu Richard Huws, yn trafod ei gyfrol, Enwau tai a ffermydd Bont-goch (Elerch), Ceredigion, yng nghwmni aelodau Cymdeithas y Penrhyn, Penrhyn-coch, Aberystwyth. Cafwyd noson ddifyr yn ei gwmni wrth iddo dywys y gynulleidfa ar daith o amgylch Bont-goch yn trafod enwau lleoedd yr ardal a’u hanes.

Sail yr astudiaeth oedd llyfryn a wobrwywyd mewn cystadleuaeth enwau lleoedd a drefnwyd ar y cyd rhwng Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Chymdeithas Hanes Amaethyddiaeth Ceredigion ym mis Tachwedd 2016.

Cyhoeddir y gyfrol gan yr awdur gyda cymorth Cronfa Eleri. Mae ar werth mewn siopau lleol a siopau llyfrau Cymraeg, neu gellir ei harchebu ar wefan gwales.com. Cyflwynir unrhyw elw i elusen Ambiwlans Awyr Cymru.