Trist yw gorfod rhoi gwybod am farwolaeth ein Llywydd er Anrhydedd, Gwynedd Pierce, yr wythnos diwethaf, ac yntau ar fin cyrraedd 101 oed. Llai na blwyddyn yn ôl cyflwynodd y Gymdeithas gyfrol deyrnged iddo, Ar Drywydd Enwau Lleoedd, yn arwydd o’n parch a’n diolch. Fe’i derbyniodd yn llawn asbri. Yr oedd yn un o gewri astudiaethau enwau lleoedd yng Nghymru, ond yn ddyn hollol ddiymhongar. Ni welwn ei debyg eto.